RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 5CYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH

Gwneud cynigion a’u penderfynu

71Pwerau Gweinidogion Cymru i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud cynigion o dan yr adran hon—

(a)

i un neu fwy o ysgolion cymunedol neu arbennig cymunedol newydd gael eu sefydlu gan awdurdod lleol i ddarparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall);

(b)

ar gyfer newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(c)

i derfynu un neu fwy o ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall).

(2)

Mae “disgybl chweched dosbarth” yn berson sydd dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed.