RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

8Pŵer awdurdod lleol i atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir, a

b

os oes gan yr ysgol gyllideb ddirprwyedig o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

2

Caiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig drwy roi i’r corff llywodraethu hysbysiad am yr ataliad dros dro.

3

Mae’r ataliad dros dro ar yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig yn dod yn weithredol o’r adeg y bydd y corff llywodraethu’n cael yr hysbysiad.

4

Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad yn atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i’r pennaeth yr un pryd.

5

Mae ataliad dros dro sy’n cael ei osod o dan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) fel petai wedi ei wneud o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (atal dros dro ddirprwyiad ariannol).