RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION
PENNOD 6DARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL
82Gorchmynion esemptio trosiannol at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010
1
Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion bod ysgol yn peidio â bod yn ysgol un rhyw.
2
Mae gwneud cynigion o’r fath o dan adran 59, 68 neu 71 i’w drin fel cais gan y corff sy’n gyfrifol i Weinidogion Cymru am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf 2010, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.
3
Yn yr adran hon—
mae i “y corff sy’n gyfrifol” yr un ystyr â (“the responsible body”) yn adran 85 o Ddeddf 2010;
ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;
mae i “gorchymyn esemptio trosiannol” yr un ystyr â (“transitional exemption order”) ym mharagraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2010;
mae “gwneud”(“make”), mewn perthynas â gorchymyn esemptio trosiannol, yn cynnwys amrywio neu ddirymu;
mae i “ysgol un rhyw” yr un ystyr â (“single-sex school”) ym mharagraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf 2010.