(1)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi llunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cymeradwyo’r cynllun fel y’i cyflwynwyd,
(b)cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau, neu
(c)gwrthod y cynllun a llunio cynllun arall sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.
(3)Os yw awdurdod lleol yn dymuno diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun diwygiedig, gydag addasiadau neu hebddynt.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod lleol cyn—
(a)addasu cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(b),
(b)llunio cynllun arall i gymryd lle cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(c), neu
(c)addasu cynllun diwygiedig yr awdurdod o dan is-adran (4).
(6)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.
(7)Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 85 mewn grym ar 3.12.2013 gan O.S. 2013/3024, ergl. 2