RHAN 5SWYDDOGAETHAU AMRYWIOL YSGOLION
Cwnsela mewn ysgolion
I193Gwybodaeth am wasanaethau cwnsela annibynnol eraill
1
Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod i wneud y canlynol—
a
crynhoi gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela annibynnol y mae’n ei sicrhau o dan adran 92;
b
darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw i Weinidogion Cymru.
2
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) gynnwys arweiniad i grynhoi neu ddarparu gwybodaeth mewn modd, ac ar adeg, a bennir yn y cyfarwyddyd.
3
Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol—
a
darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig;
b
darparu gwybodaeth mewn modd sydd, naill ai ar ei phen ei hun, neu mewn cyfuniad ag unrhyw wybodaeth arall, yn dynodi unrhyw unigolyn y mae’n ymwneud ag ef neu sy’n galluogi’r unigolyn hwnnw i gael ei ddynodi.
4
Os nad yr awdurdod lleol yw’r person sy’n darparu gwasanaeth cwnsela annibynnol—
a
rhaid i’r awdurdod lleol roi i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth gopi o unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1), a
b
rhaid i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth grynhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i darparu i’r awdurdod lleol mewn modd nad yw’n dynodi’r unigolion y mae’n ymwneud â hwy, nac yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu dynodi (naill ai ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall).
5
O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
c
gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.