Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

93Gwybodaeth am wasanaethau cwnsela annibynnol eraill

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod i wneud y canlynol—

(a)crynhoi gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela annibynnol y mae’n ei sicrhau o dan adran 92;

(b)darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) gynnwys arweiniad i grynhoi neu ddarparu gwybodaeth mewn modd, ac ar adeg, a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol—

(a)darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig;

(b)darparu gwybodaeth mewn modd sydd, naill ai ar ei phen ei hun, neu mewn cyfuniad ag unrhyw wybodaeth arall, yn dynodi unrhyw unigolyn y mae’n ymwneud ag ef neu sy’n galluogi’r unigolyn hwnnw i gael ei ddynodi.

(4)Os nad yr awdurdod lleol yw’r person sy’n darparu gwasanaeth cwnsela annibynnol—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol roi i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth gopi o unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1), a

(b)rhaid i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth grynhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i darparu i’r awdurdod lleol mewn modd nad yw’n dynodi’r unigolion y mae’n ymwneud â hwy, nac yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu dynodi (naill ai ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall).

(5)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.