Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—
(a)i’r ASB;
(b)i awdurdod bwyd,
mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud rhywbeth drwy roi cyfnod arall yn ei le.
(1)Yn y Ddeddf hon—
ystyr mater “a ragnodir” (“prescribed”) yw mater sydd yn cael ei ragnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae i’r ymadrodd “ailsgoriad” (“re-rating”) yr ystyr sydd iddo yn adran 12;
ystyr “anfon” (“send”) yw anfon drwy’r post neu ddanfon â llaw;
mae i’r ymadrodd “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;
mae i’r ymadrodd “gweithredwr” (“operator”) (sefydliad busnes bwyd) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;
mae i’r ymadrodd “meini prawf sgorio” (“rating criteria”) yr ystyr sydd iddo yn adran 3;
mae i’r ymadrodd “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;
mae i’r ymadrodd “sgôr hylendid bwyd” (“food hygiene rating”) yr ystyr sydd iddo yn adran 3;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan awdurdod bwyd at ddibenion arfer unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Ddeddf hon.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at sticer sgôr hylendid bwyd yn cynnwys, pan fo’r cyd-destun yn mynnu hynny, cyfeiriad at fwy nag un sticer.
(1)Mae pwerau i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3)Yn achos y pŵerau o dan adrannau 2(6), 3(2) a 3(5) mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio’r Ddeddf hon.
(4)Ni chaniateir i Reoliadau o dan adrannau 2(6), 3(2), 3(5), 5(8), 6(2), 10, 24 a pharagraff 3 o’r Atodlen gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(5)Mae rheoliadau eraill a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w diddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(1)Mae’r adran hon yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn i’w wneud gan Weinidogion Cymru.
(3)Caiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon—
(a)bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys diwrnodau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o sefydliad busnes bwyd);
(b)gynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth darfodol, neu ddarpariaeth arbed y gwêl Gweinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu hwylus.
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.