ATODLENHYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

(Adran 21)

RHAN 1Y WEITHDREFN AR GYFER HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

I11

Caiff hysbysiad cosb benodedig gynnig cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I22

Caiff hysbysiad cosb benodedig gynnig cyfle hefyd i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr hysbysiad cosb wedi ei roi.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I33

Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi swm gwahanol ar gyfer y gosb neu’r gosb ostyngol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I44

Caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir y bydd y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I55

Nid yw paragraff 4 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I66

Os yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw ei fod yn tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I77

Os caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl—

a

rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

b

ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr hysbysiad ar gyfer y drosedd sydd o dan sylw.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I88

Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

a

sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a

b

sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

RHAN 2FFURF A CHYNNWYS HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

I99

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi y manylion am yr amgylchiad, yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, sy’n angenrheidiol i esbonio pam mae trosedd wedi digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I1010

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—

a

enw a chyfeiriad yr awdurdod yr oedd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu ar ei ran pan roddodd y swyddog yr hysbysiad;

b

swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

c

swm y gosb ostyngol a’r cyfnod y mae’r gostyngiad yn gymwys iddo;

d

canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

e

y person y caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu;

f

drwy ba ddull y caniateir talu;

g

y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir eu cyflwyno.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I1111

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

a

hysbysu’r person y mae wedi ei roi iddo am ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig, a

b

esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.