Valid from 28/11/2013

(Adran 21)

ATODLENLL+CHYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

RHAN 1LL+CY WEITHDREFN AR GYFER HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

1LL+CCaiff hysbysiad cosb benodedig gynnig cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

2LL+CCaiff hysbysiad cosb benodedig gynnig cyfle hefyd i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr hysbysiad cosb wedi ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

3LL+CCaiff Gweinidogion Cymru ragnodi swm gwahanol ar gyfer y gosb neu’r gosb ostyngol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

4LL+CCaniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir y bydd y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

5LL+CNid yw paragraff 4 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

6LL+COs yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw ei fod yn tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

7LL+COs caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl—

(a)rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr hysbysiad ar gyfer y drosedd sydd o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

8LL+CMewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a

(b)sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

RHAN 2LL+CFFURF A CHYNNWYS HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

9LL+CRhaid i hysbysiad cosb benodedig roi y manylion am yr amgylchiad, yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, sy’n angenrheidiol i esbonio pam mae trosedd wedi digwydd.

10LL+CRhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod yr oedd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu ar ei ran pan roddodd y swyddog yr hysbysiad;

(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(c)swm y gosb ostyngol a’r cyfnod y mae’r gostyngiad yn gymwys iddo;

(d)canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(e)y person y caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu;

(f)drwy ba ddull y caniateir talu;

(g)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

11LL+CRhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

(a)hysbysu’r person y mae wedi ei roi iddo am ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig, a

(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)