(1)Rhaid i awdurdod bwyd anfon gwybodaeth a ragnodir at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal.
(2)Rhaid i’r wybodaeth honno gael ei hanfon at weithredwr o fewn 14 o ddiwrnodau o wneud pa un bynnag o’r pethau canlynol sy’n gymwys—
(a)cofrestri sefydliad y gweithredwr gan yr awdurdod fwyd o dan Erthygl 6 o Reoliad (EC) 852/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cofrestru sefydliadau busnes bwyd sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno), neu
(b)gweithredwr y sefydliad yn gwneud cais i’r awdurdod bwyd am gymeradwyaeth o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) 853/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cymeradwyo sefydliadau o’r fath sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno).
(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw—
(a)i argymhellion a wneir gan yr ASB;
(b)i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 23 o’r Ddeddf hon.
(4)Rhaid i awdurdod bwyd wneud trefniadau i orfodi’r rhwymedigaethau sy’n cael eu gosod gan y Ddeddf hon ar sefydliadau yn ei ardal.
(5)Rhaid i awdurdod bwyd adolygu gweithrediad y cynllun sgorio hylendid bwyd yn ei ardal—
(a)o bryd i’w gilydd, gyda golwg ar sicrhau bod y meini prawf sgorio yn cael eu hasesu’n deg ac yn gyson;
(b)ar gais yr ASB, er mwyn cynorthwyo’r ASB i werthuso’r cynllun fel sy’n ofynnol gan adran 14(d).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)
I2A. 15(1) mewn grym ar 28.10.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2617, ergl. 2(f)
I3A. 15(1) mewn grym ar 28.11.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(i)
I4A. 15(2)-(5) mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(i)