Arolygiadau a sgoriau hylendid bwydLL+C

3Sgoriau hylendid bwydLL+C

(1)Pan fo sefydliad busnes bwyd wedi ei arolygu yn unol ag adran 2, rhaid i awdurdod bwyd asesu safonau hylendid bwyd y sefydliad a chynhyrchu sgôr (“sgôr hylendid bwyd”) ar gyfer y sefydliad hwnnw sydd wedi ei sgorio yn erbyn meini prawf a osodir gan yr ASB (y “meini prawf sgorio”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod sgôr hylendid bwyd i’w seilio ar asesiad o safonau hylendid bwyd sefydliad a wnaed cyn i’r Ddeddf hon gael ei chychwyn.

(3)Cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl arolygiad , rhaid i awdurdod bwyd anfon at weithredwr y sefydliad—

(a)hysbysiad ysgrifenedig am sgôr hylendid bwyd y sefydliad;

(b)datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;

(c)sticer sgôr hylendid bwyd ar ffurf a ragnodir;

(d)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(4)Mae sgôr hylendid bwyd yn peidio â bod yn ddilys yn yr achosion a ganlyn—

(a)pan fo gweithredwr sefydliad wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd newydd a—

(i)bod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd newydd wedi dirwyn i ben, neu

(ii)os oes apêl wedi ei gwneud, bod yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad;

(b)pan fo perchenogaeth ar sefydliad wedi ei throsglwyddo neu fod y sefydliad wedi peidio â masnachu.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi bod categorïau penodol o sefydliad yn cael bod yn esempt rhag cael eu sgorio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 27(2)

I2A. 3(1)(3)(a)(b)(4) mewn grym ar 28.11.2013 gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(c)

I3A. 3(2)(3)(c)(d)(5) mewn grym ar 28.10.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/2617, ergl. 2(a)

I4A. 3(2)(3)(c)(d)(5) mewn grym ar 28.11.2013 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/2617, ergl. 3(c)