Cyflwyniad

I11Trosolwg

Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf hon—

a

yn rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ar y telerau a nodir yn Rhan 1, Pennod 1;

b

yn creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) ac yn rhoi swyddogaethau iddo (Rhan 2, ac Atodlenni 1 a 2);

c

yn rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a SAC, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arolygiaeth yr Archwilydd Cyffredinol gan SAC, a darpariaethau yn ymwneud â’r berthynas rhwng y ddau (Rhan 2, Pennod 2 ac Atodlenni 1 a 2);

d

yn rhagnodi sut y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru i’w harfer, ac yn gwneud darpariaeth i’r Archwilydd Cyffredinol archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru (Rhan 1, Pennod 2).

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 1ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

PENNOD 1SWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

I22Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

1

Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.

2

Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

4

Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.

5

Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.

6

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I33Ymddiswyddiad neu ddiswyddiad

1

Mae person a benodir yn Archwilydd Cyffredinol yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3)).

2

Caiff Ei Mawrhydi ryddhau person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer—

a

ar gais y person, neu

b

wedi i’w Mawrhydi gael ei bodloni nad yw’r person yn gallu, oherwydd rhesymau meddygol, cyflawni dyletswyddau’r swydd na gwneud cais i gael ei ryddhau ohoni.

3

Caiff Ei Mawrhydi ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol cyn diwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer ar dderbyn argymhelliad, ar sail camymddygiad y person, y dylai Ei Mawrhydi wneud hynny.

4

Ni chaniateir gwneud argymhelliad i ddiswyddo person o’i swydd fel Archwilydd Cyffredinol oni bai—

a

bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y dylai’r argymhelliad gael ei wneud, a

b

bod penderfyniad y Cynulliad wedi ei basio ar bleidlais lle yr oedd nifer yr aelodau Cynulliad a bleidleisiodd o blaid yn ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Cynulliad.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I44Anghymhwyso

1

Ni all person gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

2

Mae person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).

3

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person—

a

yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

b

yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

i

y Goron,

ii

y Cynulliad Cenedlaethol, neu

iii

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

c

yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

d

yn Aelod o Senedd yr Alban;

e

yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

f

yn gyflogai i Swyddfa Archwilio Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I55Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol

1

Mae’r adran hon yn gymwys i berson a oedd wedi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol o dan y Rhan hon, ond nad yw bellach yn y swydd honno.

2

Cyn gwneud y canlynol—

a

cymryd swydd o ddisgrifiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu

b

ymrwymo i gytundeb neu drefniant arall o ddisgrifiad a bennir felly,

rhaid i’r person ymgynghori ag unrhyw berson a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o’r canlynol—

a

y swyddi a bennir at ddibenion is-adran (2)(a);

b

y cytundebau a’r trefniadau eraill a bennir at ddibenion is-adran (2)(b).

4

Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys am gyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol.

5

Rhaid i’r person beidio â gwneud y canlynol—

a

dal swydd y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer gan neu ar ran—

i

y Goron,

ii

y Cynulliad Cenedlaethol, neu

iii

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol; neu

b

bod yn aelod, cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i berson a restrir yn is-adran (7).

6

Rhaid i’r person beidio â darparu gwasanaethau, yn rhinwedd unrhyw swydd, i’r canlynol—

a

y Goron, neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron,

b

y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad,

c

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Comisiwn, neu

d

person a restrir yn is-adran (7).

7

Dyma’r personau—

a

person y mae ei gyfrifon neu ei ddatganiad o gyfrifon yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt neu iddo yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

b

person y mae astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian a wneir neu a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad yn ymwneud ag ef;

c

person y mae astudiaeth a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol ag adran 145A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (astudiaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gorff neu gyrff perthnasol) yn ymwneud ag ef;

d

landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn darparu cyngor neu gymorth iddo o dan adran 145D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;

e

person y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol swyddogaethau mewn perthynas ag ef, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag ef, yn rhinwedd adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (trosglwyddo swyddogaethau Gweinidogion Cymru);

f

person y mae cyfrifon a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (3) o’r adran honno;

g

person y mae cyfrifon a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno.

8

Ond nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal person rhag dal unrhyw un o’r swyddi canlynol—

a

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol;

b

Archwilydd Cyffredinol yr Alban;

c

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

9

Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I66Statws etc

1

Mae’r person sydd am y tro yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau, yn enw’r swydd honno, i fod yn gorfforaeth undyn.

2

Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol i’w ystyried yn dal swydd o dan Ei Mawrhydi neu’n un sy’n arfer unrhyw swyddogaeth ar ran y Goron.

3

Ond ystyrir bod yr Archwilydd Cyffredinol yn was i’r Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Annotations:
Commencement Information
I6

A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I77Talu cydnabyddiaeth

1

Cyn i berson gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol, bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth yn cael eu gwneud o ran y person hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

2

Ond cyn y gellir gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

3

Caiff trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth—

a

gwneud darpariaeth ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, trefniadau ar gyfer pensiwn a buddion eraill, a

b

cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

4

Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

5

Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

a

darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol neu sydd wedi peidio â dal y swydd honno, a

b

y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, arian rhodd hynny neu’r buddion eraill hynny.

6

Bydd symiau sy’n daladwy yn rhinwedd yr adran hon yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru ac yn cael eu talu ohoni.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

PENNOD 2SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn ag arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol etc

I88Sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer

1

Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol ddisgresiwn llwyr o ran y modd y mae swyddogaethau’r swydd honno i gael eu harfer ac nid yw’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad Cenedlaethol na Llywodraeth Cymru.

2

Ond mae’r disgresiwn hwn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

3

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

a

anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol;

b

rhoi sylw, fel y mae’n ystyried yn briodol, i’r safonau a’r egwyddorion y disgwylir i ddarparwr arbenigol proffesiynol mewn cyfrifyddiaeth neu wasanaethau archwilio eu dilyn;

c

rhoi sylw i gyngor a roddir iddo gan SAC (gweler adran 17(3)).

Annotations:
Commencement Information
I8

A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I99Pwerau atodol

1

Caiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

2

Ond ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol wneud unrhyw beth sydd yn, neu a allai ddod yn, gyfrifoldeb i SAC, yn rhinwedd paragraffau (a) i (c) o adran 21(2) (darparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

Annotations:
Commencement Information
I9

A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1010Cod ymarfer archwilio

1

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddyroddi cod ymarfer archwilio sy’n rhagnodi’r modd y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol a bennir yn is-adran (2) i’w cyflawni.

2

Dyma’r swyddogaethau—

a

cynnal ymchwiliad i unrhyw gyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon sydd yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

b

cynnal neu hybu astudiaethau neu ymchwiliadau gwerth am arian neu ymgymryd â hwy, yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

c

y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, neu sydd wedi eu trosglwyddo i’r Archwilydd Cyffredinol odanynt—

i

adran 145A(2) (ymgymryd ag astudiaethau eraill, neu hybu astudiaethau eraill, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gyrff penodol);

ii

adran 145C(8) (datgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru a gafwyd yn ystod astudiaeth mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig);

iii

adran 145D (darparu cyngor a chymorth i landlord cymdeithasol cofrestredig);

iv

adran 146 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

v

adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwylio Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol);

vi

adran 147 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud ag Asiantaeth yr Amgylchedd i’r Archwilydd Cyffredinol);

d

y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004—

i

Rhan 2 (archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru);

ii

adran 45 (cynnal, neu gynorthwyo’r Ysgrifennydd Gwladol i gynnal, astudiaethau gweinyddu budd-dal);

iii

adran 51 (cyfeirio materion sy’n ymwneud â nawdd cymdeithasol at yr Ysgrifennydd Gwladol);

e

y rhai hynny sydd wedi eu cynnwys yn y darpariaethau canlynol o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—

i

paragraff 17 (mynediad at ddogfennau);

ii

paragraff 20 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff).

3

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gydymffurfio â’r cod.

4

Rhaid i’r cod ymgorffori’r hyn yr ymddengys i’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer proffesiynol gorau o ran y safonau, gweithdrefnau a’r technegau sydd i’w mabwysiadu wrth gyflawni swyddogaethau o’r math a bennir yn is-adran (2).

5

Caiff y cod wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

6

Cyn dyroddi’r cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddo ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

7

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol drefnu bod y cod (gan gynnwys unrhyw god diwygiedig) yn cael ei gyhoeddi.

8

Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I10

A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Swyddogaethau mewn perthynas â llywodraeth leol

I1111Archwilio cyrff llywodraeth leol

1

Yn lle adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), rhodder—

13Audit of accounts of local government bodies in Wales

1

A local government body in Wales—

a

must make up its accounts each year to 31 March or such other date as the Welsh Ministers may generally or in any special case direct;

b

must ensure that its accounts are audited in accordance with this Chapter.

2

The Auditor General for Wales must audit the accounts of local government bodies in Wales.

2

Yn adran 16 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”), hepgorer paragraff (e) o is-adran (2).

Annotations:
Commencement Information
I11

A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Darpariaeth yn ymwneud â throsglwyddo swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru

I1212Trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori

Yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, yn adran 146A (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â chyrff penodol i’r Archwilydd Cyffredinol), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

1A

But before making an order under subsection (1), the Welsh Ministers must consult the Wales Audit Office.

Annotations:
Commencement Information
I12

A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 1SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

I1313Ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru

1

Bydd corff corfforaethol o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”).

2

Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â SAC.

Annotations:
Commencement Information
I13

A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1414Pwerau

Caiff SAC wneud unrhyw beth (gan gynnwys caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawliau a derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall) a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

Annotations:
Commencement Information
I14

A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1515Effeithlonrwydd

Rhaid i SAC anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol.

Annotations:
Commencement Information
I15

A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Cyffredinol

I1616Y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol

1

Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn brif weithredwr ar SAC (ond nid yn gyflogai iddi).

2

Mae Atodlen 2 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC.

Annotations:
Commencement Information
I16

A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1717SAC i fonitro a darparu cyngor

1

Rhaid i SAC, yn y modd hwnnw y mae’n ei ystyried yn briodol, fonitro sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau.

2

Caiff SAC ddarparu cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.

3

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw gyngor a roddir iddo.

Annotations:
Commencement Information
I17

A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1818Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd

1

Caniateir i’r Archwilydd Cyffredinol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd honno i—

a

cyflogai i SAC,

b

person sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

c

cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, yn gweithredu ar y cyd.

2

Ond dim ond os yw’r cyflogai neu’r person arall wedi ei awdurdodi (neu, yn achos is-adran (1)(c), os yw’r ddau wedi eu hawdurdodi) i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gynllun a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo.

3

Rhaid i gynllun ddisgrifio’r amodau y mae rhaid i ddirprwyaeth o dan is-adran (1) gael ei gwneud yn ddarostyngedig iddynt.

4

Ni chaiff cyflogai neu berson arall ei awdurdodi o dan gynllun oni bai bod y cyflogai neu’r person yn cytuno i gydymffurfio â’r cod ymarfer archwilio a ddyroddir o dan adran 10(1).

5

Caiff cynllun gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

6

Caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddiwygio cynllun ar unrhyw adeg.

7

Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â SAC.

8

Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw, caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol gael ei harfer neu eu harfer ar y cyd gan—

a

yr Archwilydd Cyffredinol a chyflogai i SAC,

b

yr Archwilydd Cyffredinol a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

c

yr Archwilydd Cyffredinol, cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

9

Nid yw dirprwyaeth yn gwahardd yr Archwilydd Cyffredinol rhag gwneud unrhyw beth yn bersonol.

10

Nid yw darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ar gyfer dirprwyo swyddogaeth, neu o dan is-adran (8) ar gyfer arfer swyddogaeth ar y cyd, yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol am y swyddogaeth honno.

11

Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth paratoi cynllun o dan yr adran hon.

Annotations:
Commencement Information
I18

A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Darparu gwasanaethau

I1919Darparu gwasanaethau

1

Caniateir i drefniadau gael eu gwneud rhwng SAC ac awdurdod perthnasol ar gyfer y canlynol—

a

bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan SAC neu gan gyflogai i SAC;

b

bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan yr Archwilydd Cyffredinol;

c

bod gwasanaethau technegol, proffesiynol neu weinyddol yn cael eu darparu—

i

gan SAC i’r awdurdod, neu at ddibenion yr awdurdod,

ii

gan yr awdurdod neu ar ei ran, i SAC, neu

iii

gan yr awdurdod neu ar ei ran i’r Archwilydd Cyffredinol;

d

bod gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol yn cael eu darparu gan yr Archwilydd Cyffredinol i’r awdurdod neu at ddibenion yr awdurdod.

2

Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(b), (c)(iii) neu (d).

3

Nid yw unrhyw drefniadau o dan is-adran (1)(a) neu (b) ar gyfer arfer swyddogaeth awdurdod perthnasol yn effeithio ar gyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol am y swyddogaeth honno.

4

Os bodlonir yr amod yn is-adran (5), caiff SAC ac awdurdod perthnasol, archwilydd cymwysedig neu gorff cyfrifyddu wneud y canlynol—

a

trefniadau i gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd, neu

b

trefniadau i’r awdurdod, yr archwilydd neu’r corff a’r Archwilydd Cyffredinol gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd.

5

Dyma’r amod—

a

bod SAC yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer, a

b

bod yr awdurdod perthnasol, yr archwilydd cymwysedig neu’r corff cyfrifyddu dan sylw yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r awdurdod, y person neu’r corff hwnnw, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer.

6

Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(b).

7

Caiff SAC wneud trefniadau o dan yr adran hon ar y telerau, gan gynnwys telerau ynghylch tâl, sy’n briodol ym marn SAC.

8

Ond rhaid i amodau ynghylch tâl i SAC gael eu gwneud yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a baratoir o dan adran 24.

9

Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff cyfrifyddu” yw corff sydd—

    1. a

      yn gorff goruchwylio cydnabyddedig at ddibenion Rhan 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu

    2. b

      yn gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;

  • ystyr “archwilydd cymwysedig” yw person sydd—

    1. a

      yn gymwys i gael ei benodi yn archwilydd statudol o dan Ran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu

    2. b

      yn aelod o gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;

  • ystyr “corff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy” yw corff o gyfrifwyr sydd—

    1. a

      yn sefydledig yn y Deyrnas Unedig neu Wladwriaeth AEE arall, a

    2. b

      am y tro wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn;

  • ystyr “awdurdod perthnasol” yw unrhyw un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, unrhyw awdurdod cyhoeddus (gan gynnwys unrhyw awdurdod lleol) neu ddeiliad unrhyw swydd gyhoeddus.

Annotations:
Commencement Information
I19

A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Incwm a gwariant

I2020Gwariant

1

Am bob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wneud y canlynol ar y cyd—

a

darparu amcangyfrif o incwm a gwariant SAC, a

b

gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

2

Rhaid i bob amcangyfrif ymdrin (ymhlith pethau eraill) â’r adnoddau sy’n ofynnol at ddibenion adran 21 ( adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol).

3

Rhaid i bob amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymdrin â hi.

4

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw newid i’r amcangyfrif y mae’n ei ystyried yn briodol (yn ddarostyngedig i is-adran (5)).

5

Ni chaniateir gwneud newid o dan is-adran (4) heb—

a

ymgynghori â SAC a’r Archwilydd Cyffredinol, a

b

rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y naill neu’r llall.

Annotations:
Commencement Information
I20

A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2121Darparu adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol

1

Rhaid i SAC ddarparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol, fel sy’n ofynnol gan yr Archwilydd Cyffredinol.

2

Yn benodol, mae SAC yn gyfrifol am—

a

cyflogi staff i gynorthwyo arfer y swyddogaethau hynny;

b

sicrhau gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion y swyddogaethau hynny;

c

dal eiddo at ddibenion y swyddogaethau hynny;

d

dal dogfennau neu wybodaeth a gaffaelwyd neu a gynhyrchwyd yn ystod arfer y swyddogaethau, neu fel arall at ddibenion y swyddogaethau hynny (gweler paragraff 4(2) o Atodlen 2);

e

cadw cofnodion mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I21

A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2222Benthyg

Caiff SAC fenthyg symiau mewn sterling (ar ffurf gorddrafft neu fel arall) i’w cymhwyso at y diben o gyfarfod gorwariant dros dro dros symiau sydd ar gael i’w gyfarfod fel arall.

Annotations:
Commencement Information
I22

A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Ffioedd

I2323Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd

1

Rhaid talu ffioedd a symiau eraill y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu cael, i SAC.

2

Caiff SAC godi ffi mewn perthynas ag archwilio cyfrifon neu ddatganiad o gyfrifon person gan yr Archwilydd Cyffredinol.

3

Caiff SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

a

ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan baragraff 18(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ymchwiliadau penodol i ddarbodaeth etc person wrth ddefnyddio adnoddau);

b

ymchwiliad a gynhelir ar gais person o dan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ymchwiliadau i ddefnydd o adnoddau) neu astudiaeth a wneir ar gais person o dan adran 145A o’r Ddeddf honno (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau);

c

ymchwiliad neu astudiaeth a gynhelir neu a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gais person o dan adran 46(4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995;

d

unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu swyddogaethau sy’n cael eu harfer o dan adran 19.

4

Rhaid i SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

a

darparu gwasanaethau i gorff o dan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff);

b

astudiaeth ar gais corff addysgol o dan adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

5

O ran ffioedd a godir o dan yr adran hon—

a

ni chaniateir iddynt gael eu codi ond yn unol â chynllun a baratoir gan SAC o dan adran 24;

b

ni chaiff y ffi fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi;

c

maent yn daladwy i SAC gan y person y mae’r swyddogaeth a arferir yn ymwneud ag ef.

Annotations:
Commencement Information
I23

A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2424Cynllun ar gyfer codi ffioedd

1

Rhaid i SAC baratoi cynllun sy’n ymwneud â chodi ffioedd gan SAC.

2

Rhaid i’r cynllun gynnwys y canlynol—

a

rhestr o’r deddfiadau y caiff SAC godi ffi odanynt;

b

pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, y raddfa honno neu’r graddfeydd hynny;

c

pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi swm i’w godi, y swm hwnnw;

d

pan nad oes darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, na rhagnodi swm, y modd y bydd SAC yn cyfrifo’r ffi a godir.

3

Caiff y cynllun wneud y canlynol ymysg pethau eraill—

a

cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, a

b

darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y bydd taliadau yn cael eu gwneud.

4

O ran y cynllun—

a

rhaid i SAC ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr,

b

caiff SAC ei ddiwygio neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg, ac

c

rhaid i SAC ei osod (a gosod unrhyw ddiwygiad iddo) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

5

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd o dan—

a

adran 64F o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd am baru data), neu

b

adran 27A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd),

i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan SAC, rhaid i SAC ddiwygio’r cynllun i gynnwys y raddfa neu’r graddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru yn lle’r rhai a ragnodwyd gan SAC.

6

Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol os mai diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5) yw’r unig ddiwygiad i gynllun.

7

Bydd y cynllun yn cael effaith pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn achos diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5), unwaith y bydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.

8

Rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun (ac unrhyw ddiwygiad iddo) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi iddo gael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I24

A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Cynllun blynyddol

I2525Cynllun blynyddol

1

Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.

2

Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—

a

rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;

b

rhaglen waith SAC;

c

yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;

d

sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;

e

sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;

f

yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.

3

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol” yw blaenoriaethau’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau;

  • ystyr “rhaglen waith SAC” yw blaenoriaethau SAC ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

Annotations:
Commencement Information
I25

A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2626Cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC osod y cynllun blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I26

A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2727Cynllun blynyddol: effaith

Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol a SAC i gael eu rhwymo gan y cynllun blynyddol, ond rhaid iddynt roi sylw iddo wrth arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol gan SAC o dan adran 21 (ond nid yn gyfyngedig i hynny).

Annotations:
Commencement Information
I27

A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

I2828Swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy reolau sefydlog, wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Ddeddf hon.

2

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn cynnwys dirprwyo swyddogaethau i’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, i bwyllgor neu is-bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol neu i gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).

3

Nid yw’r adran hon yn gymwys i swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 30 (gorchmynion).

Annotations:
Commencement Information
I28

A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2929Indemnio

1

Mae unrhyw swm sy’n daladwy gan berson sydd wedi ei indemnio o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd am dor-dyletswydd i’w godi ar a’i dalu o Gronfa Gyfunol Cymru.

2

Rhaid i’r atebolrwydd beidio â bod i berson arall sydd wedi ei indemnio.

3

Mae’r canlynol yn bersonau wedi eu hindemnio—

a

Archwilydd Cyffredinol, neu gyn-Archwilydd, a benodwyd o dan y Ddeddf hon;

b

SAC;

c

cyn-aelod neu aelod presennol o SAC;

d

cyn-gyflogai neu gyflogai presennol i SAC;

e

person sy’n darparu, neu sydd wedi darparu, gwasanaethau i’r Archwilydd Cyffredinol neu i SAC o dan drefniadau a wnaed gan SAC.

4

Ystyr tor-dyletswydd at ddibenion is-adran (1) yw tor-dyletswydd (p’un ai o dan gontract neu gytundeb neu fel arall, a ph’un ai oherwydd gweithred neu anweithred) yr aed iddi gan berson sydd wedi ei indemnio wrth arfer swyddogaethau sydd i’w harfer gan y person hwnnw yn unol â darpariaeth o ddeddfiad.

Annotations:
Commencement Information
I29

A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3030Gorchmynion

1

Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol etc) sy’n cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddeddfiad (ac eithrio deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth) neu offeryn uchelfreiniol onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

3

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 35 (cychwyn) yn unig, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

4

Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon (ar wahân i orchymyn o dan adran 35 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

c

i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n angenrheidiol neu yn briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I30

A. 30 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(1)(a)

I3131Cyfarwyddiadau

1

O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon—

a

rhaid ei roi yn ysgrifenedig;

b

caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

c

caiff wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

d

caiff wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol.

2

Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar bwerau o dan y Ddeddf hon i roi cyfarwyddiadau.

Annotations:
Commencement Information
I31

A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3232Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Archwilydd Cyffredinol” (“Auditor General”) yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 1);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae i “corff llywodraeth leol” (“local government body”) yr ystyr a roddir yn adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;

  • ystyr “Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly Commission”) yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed, yn cynnwys—

    1. a

      deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon, yn unrhyw Ddeddf arall gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn unrhyw Fesur Cynulliad, a

    2. b

      is-ddeddfwriaeth (yn ystyr Deddf Dehongli 1978) p’un a yw wedi ei wneud o dan Ddeddf Cynulliad, neu Fesur Cynulliad neu fel arall;

  • ystyr “Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government”) yw Llywodraeth Cynulliad Cymru;

  • ystyr “SAC” (“WAO”) yw Swyddfa Archwilio Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 2).

Annotations:
Commencement Information
I32

A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3333Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc

1

Mae Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol etc) yn cael effaith.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â’r Ddeddf hon neu i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon.

3

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2) yn cynnwys, ymysg pethau eraill, diwygiadau i, neu ddiddymiadau a dirymiadau o, unrhyw ddeddfiad neu offeryn uchelfreiniol.

4

Nid oes dim yn Atodlen 3 yn cyfyngu ar y pŵer a roddir gan is-adran (2); a chaiff gorchymyn o’r fath, ymysg pethau eraill, wneud addasiadau i’r Atodlen honno.

Annotations:
Commencement Information
I33

A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3434Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I34

A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3535Cychwyn

1

Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol—

a

adran 30;

b

yr adran hon;

c

adran 36.

2

Yn ddarostyngedig i is-adran (1), daw’r Ddeddf hon i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

3

Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

a

gwneud darpariaeth ar gyfer pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

b

cynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n ymwneud â chychwyn.

Annotations:
Commencement Information
I35

A. 35 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(1)(b)

I3636Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.