Search Legislation

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 1SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

13Ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru

(1)Bydd corff corfforaethol o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”).

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â SAC.

14Pwerau

Caiff SAC wneud unrhyw beth (gan gynnwys caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawliau a derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall) a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’i harfer neu â’u harfer.

15Effeithlonrwydd

Rhaid i SAC anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn gosteffeithiol.

PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Cyffredinol

16Y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol

(1)Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn brif weithredwr ar SAC (ond nid yn gyflogai iddi).

(2)Mae Atodlen 2 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC.

17SAC i fonitro a darparu cyngor

(1)Rhaid i SAC, yn y modd hwnnw y mae’n ei ystyried yn briodol, fonitro sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau.

(2)Caiff SAC ddarparu cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi sylw i unrhyw gyngor a roddir iddo.

18Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd

(1)Caniateir i’r Archwilydd Cyffredinol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd honno i—

(a)cyflogai i SAC,

(b)person sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

(c)cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, yn gweithredu ar y cyd.

(2)Ond dim ond os yw’r cyflogai neu’r person arall wedi ei awdurdodi (neu, yn achos is-adran (1)(c), os yw’r ddau wedi eu hawdurdodi) i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gynllun a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo.

(3)Rhaid i gynllun ddisgrifio’r amodau y mae rhaid i ddirprwyaeth o dan is-adran (1) gael ei gwneud yn ddarostyngedig iddynt.

(4)Ni chaiff cyflogai neu berson arall ei awdurdodi o dan gynllun oni bai bod y cyflogai neu’r person yn cytuno i gydymffurfio â’r cod ymarfer archwilio a ddyroddir o dan adran 10(1).

(5)Caiff cynllun gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

(6)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddiwygio cynllun ar unrhyw adeg.

(7)Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â SAC.

(8)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw, caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol gael ei harfer neu eu harfer ar y cyd gan—

(a)yr Archwilydd Cyffredinol a chyflogai i SAC,

(b)yr Archwilydd Cyffredinol a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

(c)yr Archwilydd Cyffredinol, cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

(9)Nid yw dirprwyaeth yn gwahardd yr Archwilydd Cyffredinol rhag gwneud unrhyw beth yn bersonol.

(10)Nid yw darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ar gyfer dirprwyo swyddogaeth, neu o dan is-adran (8) ar gyfer arfer swyddogaeth ar y cyd, yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol am y swyddogaeth honno.

(11)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth paratoi cynllun o dan yr adran hon.

Darparu gwasanaethau

19Darparu gwasanaethau

(1)Caniateir i drefniadau gael eu gwneud rhwng SAC ac awdurdod perthnasol ar gyfer y canlynol—

(a)bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan SAC neu gan gyflogai i SAC;

(b)bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan yr Archwilydd Cyffredinol;

(c)bod gwasanaethau technegol, proffesiynol neu weinyddol yn cael eu darparu—

(i)gan SAC i’r awdurdod, neu at ddibenion yr awdurdod,

(ii)gan yr awdurdod neu ar ei ran, i SAC, neu

(iii)gan yr awdurdod neu ar ei ran i’r Archwilydd Cyffredinol;

(d)bod gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol yn cael eu darparu gan yr Archwilydd Cyffredinol i’r awdurdod neu at ddibenion yr awdurdod.

(2)Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(b), (c)(iii) neu (d).

(3)Nid yw unrhyw drefniadau o dan is-adran (1)(a) neu (b) ar gyfer arfer swyddogaeth awdurdod perthnasol yn effeithio ar gyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol am y swyddogaeth honno.

(4)Os bodlonir yr amod yn is-adran (5), caiff SAC ac awdurdod perthnasol, archwilydd cymwysedig neu gorff cyfrifyddu wneud y canlynol—

(a)trefniadau i gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd, neu

(b)trefniadau i’r awdurdod, yr archwilydd neu’r corff a’r Archwilydd Cyffredinol gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd.

(5)Dyma’r amod—

(a)bod SAC yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer, a

(b)bod yr awdurdod perthnasol, yr archwilydd cymwysedig neu’r corff cyfrifyddu dan sylw yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r awdurdod, y person neu’r corff hwnnw, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer.

(6)Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(b).

(7)Caiff SAC wneud trefniadau o dan yr adran hon ar y telerau, gan gynnwys telerau ynghylch tâl, sy’n briodol ym marn SAC.

(8)Ond rhaid i amodau ynghylch tâl i SAC gael eu gwneud yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a baratoir o dan adran 24.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff cyfrifyddu” yw corff sydd—

    (a)

    yn gorff goruchwylio cydnabyddedig at ddibenion Rhan 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu

    (b)

    yn gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;

  • ystyr “archwilydd cymwysedig” yw person sydd—

    (a)

    yn gymwys i gael ei benodi yn archwilydd statudol o dan Ran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu

    (b)

    yn aelod o gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;

  • ystyr “corff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy” yw corff o gyfrifwyr sydd—

    (a)

    yn sefydledig yn y Deyrnas Unedig neu Wladwriaeth AEE arall, a

    (b)

    am y tro wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn;

  • ystyr “awdurdod perthnasol” yw unrhyw un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, unrhyw awdurdod cyhoeddus (gan gynnwys unrhyw awdurdod lleol) neu ddeiliad unrhyw swydd gyhoeddus.

Incwm a gwariant

20Gwariant

(1)Am bob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wneud y canlynol ar y cyd—

(a)darparu amcangyfrif o incwm a gwariant SAC, a

(b)gosod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Rhaid i bob amcangyfrif ymdrin (ymhlith pethau eraill) â’r adnoddau sy’n ofynnol at ddibenion adran 21 ( adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol).

(3)Rhaid i bob amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymdrin â hi.

(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw newid i’r amcangyfrif y mae’n ei ystyried yn briodol (yn ddarostyngedig i is-adran (5)).

(5)Ni chaniateir gwneud newid o dan is-adran (4) heb—

(a)ymgynghori â SAC a’r Archwilydd Cyffredinol, a

(b)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y naill neu’r llall.

21Darparu adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol

(1)Rhaid i SAC ddarparu adnoddau ar gyfer arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol, fel sy’n ofynnol gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(2)Yn benodol, mae SAC yn gyfrifol am—

(a)cyflogi staff i gynorthwyo arfer y swyddogaethau hynny;

(b)sicrhau gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion y swyddogaethau hynny;

(c)dal eiddo at ddibenion y swyddogaethau hynny;

(d)dal dogfennau neu wybodaeth a gaffaelwyd neu a gynhyrchwyd yn ystod arfer y swyddogaethau, neu fel arall at ddibenion y swyddogaethau hynny (gweler paragraff 4(2) o Atodlen 2);

(e)cadw cofnodion mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

22Benthyg

Caiff SAC fenthyg symiau mewn sterling (ar ffurf gorddrafft neu fel arall) i’w cymhwyso at y diben o gyfarfod gorwariant dros dro dros symiau sydd ar gael i’w gyfarfod fel arall.

Ffioedd

23Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd

(1)Rhaid talu ffioedd a symiau eraill y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu cael, i SAC.

(2)Caiff SAC godi ffi mewn perthynas ag archwilio cyfrifon neu ddatganiad o gyfrifon person gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Caiff SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

(a)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan baragraff 18(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ymchwiliadau penodol i ddarbodaeth etc person wrth ddefnyddio adnoddau);

(b)ymchwiliad a gynhelir ar gais person o dan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ymchwiliadau i ddefnydd o adnoddau) neu astudiaeth a wneir ar gais person o dan adran 145A o’r Ddeddf honno (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau);

(c)ymchwiliad neu astudiaeth a gynhelir neu a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gais person o dan adran 46(4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995;

(d)unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu swyddogaethau sy’n cael eu harfer o dan adran 19.

(4)Rhaid i SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

(a)darparu gwasanaethau i gorff o dan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff);

(b)astudiaeth ar gais corff addysgol o dan adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

(5)O ran ffioedd a godir o dan yr adran hon—

(a)ni chaniateir iddynt gael eu codi ond yn unol â chynllun a baratoir gan SAC o dan adran 24;

(b)ni chaiff y ffi fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi;

(c)maent yn daladwy i SAC gan y person y mae’r swyddogaeth a arferir yn ymwneud ag ef.

24Cynllun ar gyfer codi ffioedd

(1)Rhaid i SAC baratoi cynllun sy’n ymwneud â chodi ffioedd gan SAC.

(2)Rhaid i’r cynllun gynnwys y canlynol—

(a)rhestr o’r deddfiadau y caiff SAC godi ffi odanynt;

(b)pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, y raddfa honno neu’r graddfeydd hynny;

(c)pan fo’r deddfiadau hynny yn gwneud darpariaeth i SAC ragnodi swm i’w godi, y swm hwnnw;

(d)pan nad oes darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd, na rhagnodi swm, y modd y bydd SAC yn cyfrifo’r ffi a godir.

(3)Caiff y cynllun wneud y canlynol ymysg pethau eraill—

(a)cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, a

(b)darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y bydd taliadau yn cael eu gwneud.

(4)O ran y cynllun—

(a)rhaid i SAC ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr,

(b)caiff SAC ei ddiwygio neu ei ail-wneud ar unrhyw adeg, ac

(c)rhaid i SAC ei osod (a gosod unrhyw ddiwygiad iddo) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhagnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd o dan—

(a)adran 64F o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (ffioedd am baru data), neu

(b)adran 27A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (pŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd),

i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan SAC, rhaid i SAC ddiwygio’r cynllun i gynnwys y raddfa neu’r graddfeydd ffioedd a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru yn lle’r rhai a ragnodwyd gan SAC.

(6)Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol os mai diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5) yw’r unig ddiwygiad i gynllun.

(7)Bydd y cynllun yn cael effaith pan fydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn achos diwygiad a wneir yn unol ag is-adran (5), unwaith y bydd wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad.

(8)Rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun (ac unrhyw ddiwygiad iddo) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi iddo gael effaith.

Cynllun blynyddol

25Cynllun blynyddol

(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—

(a)rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;

(b)rhaglen waith SAC;

(c)yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;

(d)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;

(e)sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;

(f)yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol” yw blaenoriaethau’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau;

  • ystyr “rhaglen waith SAC” yw blaenoriaethau SAC ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

26Cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC osod y cynllun blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

27Cynllun blynyddol: effaith

Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol a SAC i gael eu rhwymo gan y cynllun blynyddol, ond rhaid iddynt roi sylw iddo wrth arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol gan SAC o dan adran 21 (ond nid yn gyfyngedig i hynny).

Back to top

Options/Help