ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

(cyflwynwyd gan adran 13(2))

RHAN 1AELODAETH A STATWS

I11Aelodaeth

1

Mae SAC i gael 9 aelod.

2

Dyma hwy—

a

5 person nad ydynt yn gyflogeion i SAC (“aelodau anweithredol”) (gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon),

b

yr Archwilydd Cyffredinol (gweler Rhan 3 o’r Atodlen hon), ac

c

3 chyflogai i SAC (“yr aelodau sy’n gyflogeion”) (gweler Rhannau 4 a 5 o’r Atodlen hon).

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I22Penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion

1

Mae aelodau SAC (ar wahân i’r Archwilydd Cyffredinol) i’w penodi yn unol â darpariaethau’r Atodlen hon.

2

Rhaid gwneud pob penodiad ar sail teilyngdod.

3

Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

4

Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I33Statws

1

Nid yw SAC nac unrhyw un o’i haelodau i’w hystyried neu ei ystyried—

a

yn was neu’n asiant i’r Goron, na

b

yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

2

Ond ystyrir bod aelodau SAC yn weision y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

3

Nid yw eiddo SAC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron neu’n eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

4

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i’r Archwilydd Cyffredinol (ac ar gyfer darpariaethau ynglŷn â statws yr Archwilydd Cyffredinol, gweler adran 6).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 2AELODAU ANWEITHREDOL

I4I444Penodi aelodau anweithredol

1

Mae aelodau anweithredol i’w penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

2

Rhaid i benodiadau a wneir o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud ar gasgliadau cystadleuaeth deg ac agored.

I5I425Penodi cadeirydd ar SAC

1

Mae cadeirydd ar SAC i’w benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o blith yr aelodau anweithredol.

2

Ond cyn penodi’r cadeirydd rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn penodiad o dan y paragraff hwn yn unol â’r weithdrefn sy’n ofynnol ar gyfer y penodiad gwreiddiol.

4

Mae estyniad i’r penodiad yn cyfrif fel penodiad ar wahân at ddibenion paragraffau 6 i 8.

I6I406Cyfnod penodi ac ailbenodi

1

Rhaid i benodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fod am gyfnod o hyd at 4 blynedd a dim mwy na hynny.

2

Ni chaniateir penodi person o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fwy na dwywaith.

I7I417Trefniadau talu cydnabyddiaeth

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas â’r person sy’n gadeirydd SAC (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 9).

2

Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

3

Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’u talu ohoni.

4

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas ag unrhyw aelod anweithredol arall.

5

Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (4) yn cael eu talu gan SAC.

6

Caniateir i drefniadau talu cydnabyddiaeth o dan y paragraff hwn—

a

darparu ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid, ond nid ar gyfer pensiwn, a

b

cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

7

Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

I8I458Telerau penodi eraill

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon (yn ddarostyngedig i baragraff 9).

2

Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

a

y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol)—

i

y caiff aelod anweithredol eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

ii

y caiff cadeirydd SAC eu dal tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd, a

b

y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad)—

i

y caiff aelod anweithredol fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

ii

y caiff cadeirydd SAC fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd.

3

Ond dim ond tra bod person yn aelod anweithredol, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hyn.

I9I399Ymgynghori

1

Cyn gwneud unrhyw drefniadau o dan baragraff 7 neu benderfyniad o dan baragraff 8, rhaid ymgynghori â pherson priodol sydd â goruchwyliaeth dros benodiadau cyhoeddus.

2

Mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 7(2).

Dod â phenodiadau i ben

I10I4310

1

Caiff y person sy’n gadeirydd ar SAC ymddiswyddo o’i swydd fel cadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

2

Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

3

Daw penodiad y person sy’n ymddiswyddo i ben, yn unol ag is-baragraffau (1) neu (2), pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn.

I11I3811

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

a

bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

b

yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

c

yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

d

yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

e

yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

f

yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

2

Os yw’r aelod anweithredol y daw a’i benodiad i ben o dan is-baragraff (1) yn gadeirydd ar SAC, mae penodiad y person hwnnw fel cadeirydd hefyd yn dod i ben.

I12I3712

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol fel cadeirydd SAC i ben.

2

Ond cyn dod â phenodiad i ben rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â’r penodiad i ben os yw’r person sy’n gadeirydd ar SAC

a

wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

b

fel arall yn anfodlon cyflawni swyddogaethau bod yn gadeirydd SAC.

RHAN 3YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL

I1313Talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol

1

Caiff SAC wneud darpariaeth i daliadau ychwanegol gael eu gwneud i’r Archwilydd Cyffredinol drwy lwfansau a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan yr Archwilydd Cyffredinol yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC a phrif weithredwr arni.

2

Caniateir i daliadau gael eu gwneud o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at y tâl cydnabyddiaeth sy’n daladwy i’r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 7.

3

Mae symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) i’w talu gan SAC.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 4AELODAU SY’N GYFLOGEION

I1414Penodi

Mae’r aelodau sy’n gyflogeion i gynnwys-

a

person a benodir yn unol â pharagraff 15 (“yr aelod a benodir”), a

b

dau berson a benodir yn unol â pharagraff 16 (“yr aelodau etholedig”).

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1515Yr aelod a benodir

1

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person i’r aelodau anweithredol i’w benodi o dan y paragraff hwn.

2

Rhaid i’r aelodau anweithredol—

a

penodi’r person hwnnw, neu

b

ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person arall (os felly bydd yr is-baragraff hwn yn gymwys dro ar ôl tro hyd nes bod rhywun wedi ei benodi’n aelod).

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1616Yr aelodau etholedig

1

Rhaid i SAC gynnal pleidlais o’i staff at ddiben penodi person neu bersonau, yn ôl y digwydd, o dan y paragraff hwn.

2

Mae’r aelodau etholedig i’w penodi gan yr aelodau anweithredol yn unol â chanlyniad y bleidlais.

3

Mae penodiad a wneir o dan y paragraff hwn i’w drin fel penodiad ar sail teilyngdod at ddibenion paragraff 2(2) (penodi aelodau SAC ar sail teilyngdod).

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1717Telerau penodi

1

Bydd telerau penodi yr aelodau sy’n gyflogeion yn cael eu pennu gan yr aelodau anweithredol.

2

Caiff y telerau gynnwys trefniadau talu cydnabyddiaeth a all—

a

gwneud darpariaeth ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC, a

b

cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

3

Ni chaiff y trefniadau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog nac ychwaith, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), ar gyfer pensiwn.

4

Bydd y symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (2) yn cael eu talu gan SAC.

5

Os yw aelod sy’n gyflogai (“A”) yn cyfranogi o gynllun pensiwn o dan delerau cyflogaeth A gyda SAC, rhaid i’r trefniadau talu cydnabyddiaeth (heb effeithio ar barhad y gyflogaeth honno) wneud darpariaethau sy’n sicrhau bod gwasanaeth A fel aelod sy’n gyflogai i’w drin, at ddibenion y cynllun, fel petai’n wasanaeth fel cyflogai i SAC.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I1818Telerau penodi eraill

1

Caiff yr aelodau anweithredol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad aelod sy’n gyflogai.

2

Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

a

y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol) y caiff yr aelod sy’n gyflogai eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

b

y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad) y caiff yr aelod sy’n gyflogai fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod.

3

Ond dim ond tra bod person yn aelod sy’n gyflogai, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod sy’n gyflogai, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Dod â phenodiad i ben

I1919

Mae penodiad aelod sy’n gyflogai yn dod i ben—

a

os yw’r telerau penodi yn darparu ei fod yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

b

beth bynnag yw’r sefyllfa, pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogai i SAC.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2020

1

Caiff aelod sy’n gyflogai ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

2

Bydd y penodiad yn dod i ben pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn gan yr aelodau anweithredol.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2121

Caiff yr aelodau anweithredol ddod â phenodiad aelod sy’n gyflogai i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

a

bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

b

yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

c

yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

d

yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

e

yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

f

yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 5CYFLOGEION

I2222Penodi

1

Caiff SAC gyflogi staff.

2

Ni all person gael ei benodi yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

3

Bydd person yn peidio â bod yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

4

Bydd staff SAC yn cael eu cyflogi ar y telerau hynny y caniateir i SAC eu penderfynu.

5

Ni chaiff person sy’n gyflogai i SAC ddal unrhyw swydd y caniateir penodi person iddi, argymell person ar ei chyfer neu enwebu person ar ei chyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Statws

I2323

Nid yw aelod o staff SAC i’w ystyried—

a

yn was neu’n asiant i’r Goron, neu

b

yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2424

Ond ystyrir bod aelod o staff SAC yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2525Trefniadau talu cydnabyddiaeth

1

Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i gyflogeion fel y darperir ar ei gyfer gan eu telerau penodi, neu o dan y telerau hynny.

2

Rhaid i SAC dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

a

darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn gyflogai i SAC neu sydd wedi peidio â bod yn gyflogai iddi, a

b

y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, y rhoddion ariannol hynny neu’r buddion eraill hynny.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 6ANGHYMHWYSO FEL AELOD O SAC NEU GYFLOGAI IDDI

I2626

1

Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC neu yn gyflogai iddi os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

2

Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC neu yn gyflogai iddi os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

3

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o SAC neu’n gyflogai iddi os yw’r person—

a

yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

b

yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, neu ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

i

y Goron,

ii

y Cynulliad Cenedlaethol, neu

iii

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

c

yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

d

yn Aelod o Senedd yr Alban; neu

e

yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon.

4

Mae is-baragraff (3)(b) i’w anwybyddu yn achos yr Archwilydd Cyffredinol.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 1 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 7RHEOLAU GWEITHDREFNOL

I2727Cyffredinol

Rhaid i SAC wneud rheolau at ddibenion rheoleiddio gweithdrefnau SAC.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 1 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2828Cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC

1

Rhaid i’r rheolau ddarparu am gworwm ar gyfer unrhyw gyfarfodydd SAC (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgorau neu is-bwyllgorau a sefydlir o dan baragraff 29).

2

Caiff y rheolau ddarparu bod cworymau gwahanol yn gymwys i amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, mewn perthynas â chyfarfodydd penodol neu at ddibenion penodol).

3

Rhaid i’r rheolau ddarparu na ellir bodloni cworwm ar unrhyw adeg oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 1 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2929Pwyllgorau

1

Caiff y rheolau gynnwys—

a

darpariaeth ar gyfer sefydlu pwyllgorau SAC, ac i’r pwyllgorau hynny sefydlu is-bwyllgorau, a

b

darpariaeth i reoleiddio gweithdrefnau’r pwyllgorau a’r is-bwyllgorau hynny.

2

Caiff cyflogai i SAC nad yw’n aelod sy’n gyflogai fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.

3

Caiff person nad yw’n aelod o SAC nac yn gyflogai i SAC fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ar yr amod nad oes dim un o swyddogaethau SAC yn cael ei dirprwyo i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor (gweler paragraff 32).

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 1 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3030Cynnal pleidleisiau

Rhaid i’r rheolau gynnwys darpariaeth ynghylch cynnal pleidleisiau at ddiben penodi aelodau sy’n gyflogeion (gweler paragraff 16).

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 1 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

RHAN 8MATERION ERAILL

I3131Dilysrwydd

Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan SAC (gan gynnwys unrhyw beth a wneir gan ei haelodau anweithredol, yr aelodau sy’n gyflogeion, unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor, a chan unrhyw gyflogai i SAC) gan—

a

swydd wag, neu

b

penodiad diffygiol.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 1 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3232Dirprwyo swyddogaethau

1

Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—

a

unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu

b

i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

2

Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.

3

Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.

4

Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.

5

Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—

a

adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);

b

adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);

c

paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);

d

paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);

e

paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);

f

paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 1 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3333Cyfrifon SAC

1

Yr Archwilydd Cyffredinol fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer SAC.

2

Rhaid i’r swyddog cyfrifyddu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddiau a roddir gan y Trysorlys—

a

cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

b

paratoi datganiad o gyfrifon.

3

Rhaid i ddatganiad o gyfrifon roi barn wir a theg ar—

a

cyflwr materion SAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

b

incwm a gwariant SAC yn ystod y flwyddyn ariannol.

4

Mae’r cyfarwyddiadau y caiff y Trysorlys eu rhoi yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gyfarwyddiadau yn ymwneud â’r canlynol—

a

y materion a’r trafodion ariannol y mae’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon i ymwneud â hwy;

b

yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

c

y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

d

yr wybodaeth ychwanegol (os oes gwybodaeth felly) sydd i ddod gyda’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon.

5

Caiff y cyfarwyddiadau y caniateir i’r Trysorlys eu rhoi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau ac eithrio SAC.

6

Mae gan swyddog cyfrifyddu SAC, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 1 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

Archwilio SACetc

I3434

1

Y Cynulliad Cenedlaethol sydd i benodi person yn archwilydd cyfrifon SAC, ac i bennu telerau penodi’r person hwnnw.

2

Caiff SAC argymell person at ddibenion is-baragraff (1).

3

Dim ond os yw’r person yn archwilydd cymwysedig fel y’i ddiffinnir yn adran 19 y mae person yn gymwys i’w benodi.

4

Os yw person a benodir yn archwilydd yn peidio â bod yn archwilydd cymwysedig, mae’r person yn peidio â bod yn archwilydd.

5

Rhaid i’r person a benodir yn archwilydd roi sylw i’r safonau a’r egwyddorion y byddai disgwyl i ddarparwr proffesiynol arbenigol o wasanaethau cyfrifyddu neu archwilio eu dilyn.

6

Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r archwilydd fel y darperir ar ei gyfer gan delerau penodi’r archwilydd, neu o dan y telerau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 1 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3535

1

O ran datganiad o gyfrifon a baratoir o dan baragraff 33, rhaid iddo—

a

cael ei lofnodi gan swyddog cyfrifyddu SAC, a

b

cael ei gyflwyno gan gadeirydd SAC i’r archwilydd a benodwyd o dan baragraff 34,

heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

2

Rhaid i’r archwilydd—

a

ymchwilio i unrhyw ddatganiad o gyfrifon a dderbynnir ganddo o dan is-baragraff (1) a’i ardystio, a

b

gosod y datganiad o gyfrifon fel y’i hardystiwyd ganddo ynghyd â’i adroddiad arno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Rhaid i’r archwilydd, yn benodol, fod yn fodlon, ar ôl ymchwilio i ddatganiad o gyfrifon a gyflwynir iddo—

a

bod y gwariant yr aed iddo ac y mae a wnelo’r datganiad ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sydd yn ei lywodraethu;

b

nad yw arian y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a gafodd SAC at ddiben penodol neu at ddibenion penodol, wedi ei wario ond at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny;

c

bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon;

d

bod arferion priodol wedi eu dilyn wrth baratoi’r datganiad o gyfrifon.

4

Mae gan yr archwilydd yr hawl, ar bob adeg resymol, i gael gafael ar bob dogfen yr ymddengys i’r archwilydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwilio’r cyfrifon.

5

Caiff yr archwilydd—

a

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am ddogfen o’r fath, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny;

b

ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu cyfrifon i’r archwilydd, ar adegau a bennir ganddo, o ran y trafodion hynny (gan y person perthnasol) a bennir gan yr archwilydd.

6

Ystyr “person perthnasol” yw—

a

yr Archwilydd Cyffredinol,

b

SAC, neu

c

unrhyw berson y mae’r cyfrifon yn ymwneud â’i faterion a’i drafodion ariannol o ganlyniad i baragraff 33(5).

7

Caiff yr archwilydd—

a

cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol;

b

cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae SAC wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau SAC;

c

gosod adroddiad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliadau o’r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

8

At ddibenion cynnal ymchwiliadau o’r fath—

a

mae gan yr archwilydd hawl i gael gafael, ar bob adeg resymol, ar bob dogfen ym meddiant neu o dan reolaeth yr Archwilydd Cyffredinol neu SAC, y mae ar yr archwilydd angen rhesymol amdano at y dibenion hynny;

b

caiff yr archwilydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am, unrhyw un o’r dogfennau hynny, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 1 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I3636Tystiolaeth ddogfennol

1

Mae gosod sêl SAC i’w ddilysu â llofnod—

a

aelod o SAC, neu

b

cyflogai i SAC a awdurdodwyd (naill ai’n gyffredinol neu’n benodol) ar gyfer y diben hwnnw gan SAC.

2

Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl SAC, neu yr honnir ei bod wedi ei llofnodi ar ei rhan—

a

i gael ei derbyn yn dystiolaeth, a

b

oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi’i chyflawni neu ei llofnodi felly.