ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 4AELODAU SY’N GYFLOGEION

Dod â phenodiad i ben

21

Caiff yr aelodau anweithredol ddod â phenodiad aelod sy’n gyflogai i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)

bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)

yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)

yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)

yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)

yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)

yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.