xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
29(1)Caiff y rheolau gynnwys—
(a)darpariaeth ar gyfer sefydlu pwyllgorau SAC, ac i’r pwyllgorau hynny sefydlu is-bwyllgorau, a
(b)darpariaeth i reoleiddio gweithdrefnau’r pwyllgorau a’r is-bwyllgorau hynny.
(2)Caiff cyflogai i SAC nad yw’n aelod sy’n gyflogai fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.
(3)Caiff person nad yw’n aelod o SAC nac yn gyflogai i SAC fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ar yr amod nad oes dim un o swyddogaethau SAC yn cael ei dirprwyo i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor (gweler paragraff 32).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 29(1) mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xv)
I3Atod. 1 para. 29(2)(3) mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)