- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ATODLEN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 03 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(cyflwynwyd gan adran 33(1))
1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig.
(2)Ar y diwrnod penodedig, ac ar ôl hynny, bydd y person—
(a)yn parhau i fod yn Archwilydd Cyffredinol ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon;
(b)yn dal y swydd honno am 8 mlynedd gan dynnu o’r cyfnod hwnnw gyfnod sy’n hafal i’r amser y bu’r person yn Archwilydd Cyffredinol cyn y diwrnod penodedig.
(3)Bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth i’r person o dan adran 7 yn cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y diwrnod penodedig (ond nid ydynt i gwmpasu unrhyw gyfnod cyn y diwrnod penodedig).
(4)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.
(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn y daw adran 11 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru) i rym, bydd penodiad person fel archwilydd mewn perthynas â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru yn cael effaith o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(2)Bydd y penodiad hwnnw o’r person fel archwilydd yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer (oni ddaw’r penodiad i ben yn gynnar).
(3)Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gyda’r addasiadau canlynol, yn gymwys mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn parhau yn rhinwedd is-baragraff (2)—
(a)bydd Rhan 2 ac adran 64E(4) yn cael effaith fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon, a
(b)bydd adran 20 yn cael effaith fel pe bai pob cyfeiriad at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfeiriad at SAC (a bydd unrhyw raddfa ffioedd sydd eisoes wedi ei rhagnodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran honno yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r archwilydd y mae ei benodiad i barhau tan ei bod yn cael ei hamrywio neu’n cael ei disodli gan raddfa a ragnodwyd gan SAC, ac oni bai fod hynny’n digwydd).
(4)Mae darpariaethau canlynol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn cael effaith mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn cael ei barhau gan is-baragraff (2) fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon—
(a)adran 16(2)(e);
(b)adran 25(5)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
3(1)Pan fo gwybodaeth wedi ei chael gan—
(a)archwilydd a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf honno sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon,
(b)person sy’n gweithredu ar ei ran, neu
(c)person sy’n gweithredu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol o dan ddarpariaeth unrhyw un o’r deddfiadau a ganlyn sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon—
(i)adran 145C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998,
(ii)Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999,
(iii)Rhan 1 neu Ran 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, neu
(iv)Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009,
nid effeithir ar y modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu gan ddiwygiad i’r ddarpariaeth honno.
(2)I’r graddau y mae’n angenrheidiol ar gyfer parhau’r modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu, bydd gwybodaeth sydd wedi ei chael mewn modd a grybwyllir yn is-baragraff (1) i’w thrin yn yr un modd a gwybodaeth sydd wedi ei chael gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys tan y gwneir y rheolau cyntaf o dan baragraff 27 o Atodlen 1.
(2)Penderfynir ar unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan SAC (gan gynnwys unrhyw fater sydd i’w benderfynu at ddibenion paratoi neu wneud y rheolau hynny) yn unol â’r weithdrefn a bennir gan gadeirydd SAC (a all gynnwys y weithdrefn ar gyfer pennu cworwm ar gyfer unrhyw gyfarfod y mae’r mater i’w benderfynu ynddo).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I8Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(w)(i)
5(1)Ar y diwrnod penodedig bydd staff yr Archwilydd Cyffredinol yn cael eu trosglwyddo i gyflogaeth SAC.
(2)At unrhyw ddiben mewn perthynas â pherson a ddaw’n gyflogai i SAC yn rhinwedd is-baragraff (1)—
(a)o ran contract cyflogaeth y person hwnnw—
(i)nid yw’n cael ei derfynu gan y trosglwyddo, a
(ii)mae’n cael effaith o’r diwrnod penodedig fel pe byddai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a SAC;
(b)mae cyfnod cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig—
(i)i’w drin fel cyfnod o gyflogaeth gyda SAC, a
(ii)i’w drin fel cyfnod cyflogaeth di-dor fel aelod o staff SAC at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.
(3)Heb ragfarnu is-baragraff (2), pan fo person yn dod yn gyflogai i SAC yn rhinwedd is-baragraff (1)—
(a)trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gontract cyflogaeth y person hwnnw, ac mewn cysylltiad â’i gontract, i SAC, a
(b)mae unrhyw beth a wnaed cyn y diwrnod penodedig gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r person neu â’r contract i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi.
(4)Ni throsglwyddir contract cyflogaeth (na hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef) o dan y paragraff hwn os yw cyflogai yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad ac yn hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC o’r gwrthwynebiad hwnnw.
(5)Os yw cyflogai yn hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC ei fod yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad o dan is-baragraff (4)—
(a)terfynir y contract cyflogaeth yn union cyn y diwrnod penodedig, ond
(b)nid yw’r cyflogai i’w drin, at unrhyw ddiben, fel petai wedi cael ei ddiswyddo gan yr Archwilydd Cyffredinol.
(6)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan berson i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol (ar wahân i newid cyflogwr) sy’n niweidiol i’r person o ran ei amodau gwaith.
(7)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I10Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo amrywiad honedig yng nghontract cyflogaeth—
(a)cyflogai i’r Archwilydd Cyffredinol;
(b)cyflogai i SAC y trosglwyddwyd ei gyflogaeth o dan baragraff 5.
(2)Mae’r amrywiad yn ddi-rym os yr unig neu’r prif reswm dros amrywio’r contract yw—
(a)y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1), neu
(b)rheswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad nad yw’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu.
(3)Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n rhwystro amrywiad os yr unig neu’r prif reswm dros yr amrywiad yw—
(a)rheswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad sy’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu, neu
(b)rheswm nad yw’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I12Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo cydgytundeb a wneir gan neu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol yn bodloni’r amodau a bennir yn is-baragraff (2).
(2)Yr amodau yw bod y cytundeb—
(a)yn bodoli ar adeg y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1),
(b)wedi ei wneud gydag undeb llafur a gydnabyddir gan yr Archwilydd Cyffredinol, ac
(c)yn gymwys mewn cysylltiad â chyflogai y trosglwyddwyd ei gyflogaeth o dan baragraff 5(1) (“cyflogai a drosglwyddwyd”).
(3)Ar ôl y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1)—
(a)mae’r cytundeb, o’i gymhwyso mewn perthynas â chyflogai a drosglwyddwyd, i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud gyda’r undeb llafur gan neu ar ran SAC, a
(b)mae unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad o dan y cytundeb neu mewn cysylltiad ag ef o ran cyflogai a drosglwyddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â SAC.
(4)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhagfarnu cymhwyso adrannau 179 a 180 o Ddeddf 1992 (cydgytundebau y tybir nad oes modd eu gorfodi o dan amgylchiadau penodol) i’r cytundeb.
(5)Yn y paragraff hwn—
mae i “cydgytundeb” yr un ystyr â “collective agreement” yn Neddf 1992,
mae i “cydnabod” yr ystyr a roddir i “recognised” yn adran 178(3) o Ddeddf 1992,
ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, ac
mae i “undeb llafur” yr un ystyr â “trade union” yn Neddf 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I14Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
8(1)Pan oedd undeb llafur annibynnol wedi ei gydnabod gan yr Archwilydd Cyffredinol i unrhyw raddau cyn y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1) mewn perthynas ag unrhyw gyflogai y trosglwyddwyd ei gyflogaeth, ar ôl y trosglwyddiad—
(a)mae’r undeb hwnnw i’w drin fel pe bai wedi ei gydnabod gan SAC i’r un graddau mewn perthynas â’r cyflogeion hynny, a
(b)caniateir i unrhyw gytundeb ar gyfer cydnabyddiaeth gael ei amrywio neu ei ddad-wneud yn unol â hynny.
(2)Yn y paragraff hwn—
mae i “cydnabod” yr ystyr a roddir i “recognised” yn adran 178(3) o Ddeddf 1992,
mae i “undeb llafur annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent trade union” yn adran 5 o Ddeddf 1992, ac
ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I16Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
9(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys—
(a)i gyflogai i’r Archwilydd Cyffredinol;
(b)i gyflogai i SAC y trosglwyddir ei gyflogaeth o dan baragraff 5.
(2)Os diswyddir cyflogai y mae’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, mae’r cyflogai hwnnw i’w drin fel petai wedi cael ei ddiswyddo’n annheg at ddibenion Rhan X o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 os yr unig reswm neu’r prif reswm dros y diswyddiad yw—
(a)y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1), neu
(b)rheswm sy’n gysylltiedig â‘r trosglwyddiad nad yw’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu.
(3)Os diswyddir cyflogai y mae’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, mae’r rheswm dros y diswyddiad hwnnw i’w drin at ddibenion adrannau 98(1) a 135 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (rheswm dros ddiswyddo) fel petai wedi bod am fod y swydd wedi ei dileu os yr unig reswm neu’r prif reswm dros y diswyddiad yw rheswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1) sy’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu.
(4)Nid yw is-baragraff (3) yn rhagfarnu cymhwysiad adran 98(4) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (prawf ar gyfer diswyddiad teg).
(5)Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys os yw cymhwyso adran 94 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (yr hawl i beidio â chael eich diswyddo’n annheg) i’r diswyddiad wedi ei eithrio gan neu o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau yn y Ddeddf honno, Deddf Tribiwnlysoedd Cyflogaeth 1996 neu Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I18Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
10(1)Ar y diwrnod trosglwyddo, trosglwyddir i SAC yr eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol hawl iddynt, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ddarostyngedig iddynt mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, a byddant wedi eu breinio yn SAC o’r diwrnod hwnnw ymlaen.
(2)Mae is-baragraff (1) yn gweithredu mewn perthynas ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(a)p’un a ellid fod wedi eu trosglwyddo fel arall ai peidio;
(b)ni waeth pa fath o ofyniad am gydsyniad a fyddai’n gymwys fel arall.
(3)Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu
(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,
ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan yr Archwilydd Cyffredinol, neu mewn perthynas ag ef, yn union cyn y diwrnod trosglwyddo, barhau i gael ei wneud o’r diwrnod hwnnw ymlaen gan SAC neu mewn perthynas â hi.
(4)Bydd unrhyw beth a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef at ddibenion y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu
(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,
ac sydd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod trosglwyddo yn cael effaith fel petai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi o’r diwrnod hwnnw ymlaen.
(5)Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu
(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,
ac sydd wedi eu gwneud neu eu cychwyn cyn y diwrnod trosglwyddo, mae cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel cyfeiriad at SAC neu fel petai’n cynnwys cyfeiriad at SAC.
(6)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol a drosglwyddir i SAC yn rhinwedd paragraff 5.
(7)Yn y paragraff hwn—
ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”), mewn perthynas â swyddogaeth a drosglwyddir, yw’r diwrnod pan ddaeth y swyddogaeth yn arferadwy gan SAC am y tro cyntaf;
ystyr “swyddogaeth a drosglwyddir” (“transferred function”) yw swyddogaeth—
a roddir i SAC neu a osodir arni gan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon sydd yn ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) ddarpariaeth o unrhyw ddeddfiad a roddodd yr un swyddogaeth neu swyddogaeth sylweddol debyg i’r Archwilydd Cyffredinol neu a osododd swyddogaeth felly arno, neu
a roddir i SAC neu a osodir arni gan unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i ddiwygio’r deddfiad hwnnw gan y Ddeddf hon neu odani.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I20Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
11(1)Mae tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn nodi bod eiddo wedi ei drosglwyddo yn rhinwedd paragraff 10(1) yn dystiolaeth bendant o’r trosglwyddiad.
(2)Mae paragraff 10 yn cael effaith mewn perthynas ag eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae’n gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn rhwystro neu’n cosbi trosglwyddiad yr eiddo, yr hawliau neu’r rhwymedigaethau neu’n cyfyngu ar eu trosglwyddo.
(3)Nid oes hawl i ragbrynu, hawl i ddychwelyd na hawl arall debyg yn gweithredu nac yn dod yn arferadwy o ganlyniad i unrhyw drosglwyddiad eiddo neu hawliau yn rhinwedd paragraff 10(1).
(4)Mae unrhyw hawl o’r fath yn cael effaith yn achos unrhyw drosglwyddiad o’r fath fel pe bai’r trosglwyddwr a’r trosglwyddai yn un person yn gyfreithiol ac nad oedd eiddo na hawliau wedi eu trosglwyddo.
(5)Telir y symiau digolledu hynny sy’n gyfiawn i unrhyw berson o ran unrhyw hawl o’r fath a fyddai, ar wahân i is-baragraff (3), wedi gweithredu o blaid y person hwnnw neu wedi dod yn arferadwy ganddo, ond na all weithredu o blaid y person hwnnw na dod yn arferadwy ganddo bellach oherwydd gweithrediad yr is-baragraff hwnnw.
(6)Ond ni thelir symiau digolledu o dan is-baragraff (5) i’r Archwilydd Cyffredinol, i SAC nac i gyn-Archwilydd Cyffredinol.
(7)Mae symiau digolledu sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (5) i’w talu gan SAC.
(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (7) i’w godi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’i dalu ohono.
(9)Mae is-baragraffau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â chreu hawliau neu fuddiannau, neu wneud unrhyw beth arall mewn perthynas ag eiddo, fel y maent yn gymwys o ran trosglwyddo eiddo, ac mae cyfeiriadau at y trosglwyddwr a’r trosglwyddai i’w darllen yn unol â hynny.
(10)Yn y paragraff hwn, ystyr “hawl i ddychwelyd” yw unrhyw hawl o dan ddarpariaeth ar gyfer dychweliad neu rifersiwn eiddo mewn amgylchiadau penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I22Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
12(1)I’r graddau y mae unrhyw atebolrwydd troseddol sydd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn gysylltiedig ag eiddo, hawliau neu rhwymedigaethau a drosglwyddir i SAC yn rhinwedd paragraff 10, mae’r atebolrwydd troseddol hefyd yn cael ei drosglwyddo i SAC.
(2)Mae paragraff 10(3) i (5) yn gymwys mewn perthynas ag atebolrwydd troseddol a drosglwyddir yn rhinwedd y paragraff hwn fel y mae’n gymwys i atebolrwydd a drosglwyddir yn rhinwedd paragraff 10(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I24Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)
13(1)Mae’r rhwymedigaethau sydd wedi eu cwmpasu gan adran 29 yn cynnwys—
(a)rhwymedigaethau sy’n codi cyn i’r adran honno ddod i rym, a
(b)rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred a ddigwyddodd cyn i’r adran honno ddod i rym.
(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan—
(a)daw swm yn dyladwy gan gyn-Archwilydd Cyffredinol a benodwyd cyn i adran 2 ddod i rym, a
(b)byddai’r swm hwnnw wedi ei godi ar Gronfa Gyfunol Cymru o dan baragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 cyn i’r paragraff hwnnw gael ei ddiddymu gan y Ddeddf hon.
(3)Mae paragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn parhau i gael effaith o ran y person hwnnw a’r swm hwnnw fel pe na bai’r diddymiad wedi dod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I26Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(w)(ii)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: