ATODLEN 4LL+CMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009LL+C

87(1)Mae adran 27 (ffioedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru”.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun i godi ffioedd a baratowyd o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,”.

(4)Yn is-adran (4), yn lle’r cyfeiriad at “i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “i Swyddfa Archwilio Cymru” ac yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru”.

(5)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi..

(6)Yn is-adran (5), yn lle’r ddau gyfeiriad at “i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “i Swyddfa Archwilio Cymru”.

(7)Hepgorer is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 4 para. 87 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)