Search Legislation

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2014.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, Adran 1 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 26 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

1TrosolwgLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf hon—

(a)yn rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ar y telerau a nodir yn Rhan 1, Pennod 1;

(b)yn creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) ac yn rhoi swyddogaethau iddo (Rhan 2, ac Atodlenni 1 a 2);

(c)yn rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a SAC, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arolygiaeth yr Archwilydd Cyffredinol gan SAC, a darpariaethau yn ymwneud â’r berthynas rhwng y ddau (Rhan 2, Pennod 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(d)yn rhagnodi sut y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru i’w harfer, ac yn gwneud darpariaeth i’r Archwilydd Cyffredinol archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru (Rhan 1, Pennod 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 1 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(a)

Back to top

Options/Help