RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL
PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC
Cyffredinol
18Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd
1
Caniateir i’r Archwilydd Cyffredinol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd honno i—
a
cyflogai i SAC,
b
person sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu
c
cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, yn gweithredu ar y cyd.
2
Ond dim ond os yw’r cyflogai neu’r person arall wedi ei awdurdodi (neu, yn achos is-adran (1)(c), os yw’r ddau wedi eu hawdurdodi) i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gynllun a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo.
3
Rhaid i gynllun ddisgrifio’r amodau y mae rhaid i ddirprwyaeth o dan is-adran (1) gael ei gwneud yn ddarostyngedig iddynt.
4
Ni chaiff cyflogai neu berson arall ei awdurdodi o dan gynllun oni bai bod y cyflogai neu’r person yn cytuno i gydymffurfio â’r cod ymarfer archwilio a ddyroddir o dan adran 10(1).
5
Caiff cynllun gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.
6
Caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddiwygio cynllun ar unrhyw adeg.
7
Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â SAC.
8
Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw, caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol gael ei harfer neu eu harfer ar y cyd gan—
a
yr Archwilydd Cyffredinol a chyflogai i SAC,
b
yr Archwilydd Cyffredinol a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu
c
yr Archwilydd Cyffredinol, cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.
9
Nid yw dirprwyaeth yn gwahardd yr Archwilydd Cyffredinol rhag gwneud unrhyw beth yn bersonol.
10
Nid yw darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ar gyfer dirprwyo swyddogaeth, neu o dan is-adran (8) ar gyfer arfer swyddogaeth ar y cyd, yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol am y swyddogaeth honno.
11
Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth paratoi cynllun o dan yr adran hon.