RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL
PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC
Darparu gwasanaethau
19Darparu gwasanaethau
(1)
Caniateir i drefniadau gael eu gwneud rhwng SAC ac awdurdod perthnasol ar gyfer y canlynol—
(a)
bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan SAC neu gan gyflogai i SAC;
(b)
bod unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod i gael ei harfer neu eu harfer gan yr Archwilydd Cyffredinol;
(c)
bod gwasanaethau technegol, proffesiynol neu weinyddol yn cael eu darparu—
(i)
gan SAC i’r awdurdod, neu at ddibenion yr awdurdod,
(ii)
gan yr awdurdod neu ar ei ran, i SAC, neu
(iii)
gan yr awdurdod neu ar ei ran i’r Archwilydd Cyffredinol;
(d)
bod gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol yn cael eu darparu gan yr Archwilydd Cyffredinol i’r awdurdod neu at ddibenion yr awdurdod.
(2)
Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(b), (c)(iii) neu (d).
(3)
Nid yw unrhyw drefniadau o dan is-adran (1)(a) neu (b) ar gyfer arfer swyddogaeth awdurdod perthnasol yn effeithio ar gyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol am y swyddogaeth honno.
(4)
Os bodlonir yr amod yn is-adran (5), caiff SAC ac awdurdod perthnasol, archwilydd cymwysedig neu gorff cyfrifyddu wneud y canlynol—
(a)
trefniadau i gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd, neu
(b)
trefniadau i’r awdurdod, yr archwilydd neu’r corff a’r Archwilydd Cyffredinol gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd.
(5)
Dyma’r amod—
(a)
bod SAC yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer, a
(b)
bod yr awdurdod perthnasol, yr archwilydd cymwysedig neu’r corff cyfrifyddu dan sylw yn ystyried y byddai gwneud hynny yn hwyluso arfer swyddogaethau’r awdurdod, y person neu’r corff hwnnw, neu y byddai’n ffafriol i’w harfer.
(6)
Ond rhaid i SAC ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol cyn ymrwymo i drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(b).
(7)
Caiff SAC wneud trefniadau o dan yr adran hon ar y telerau, gan gynnwys telerau ynghylch tâl, sy’n briodol ym marn SAC.
(8)
Ond rhaid i amodau ynghylch tâl i SAC gael eu gwneud yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a baratoir o dan adran 24.
(9)
Yn yr adran hon—
ystyr “corff cyfrifyddu” yw corff sydd—
(a)
yn gorff goruchwylio cydnabyddedig at ddibenion Rhan 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu
(b)
yn gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;
ystyr “archwilydd cymwysedig” yw person sydd—
(a)
yn gymwys i gael ei benodi yn archwilydd statudol o dan Ran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu
(b)
yn aelod o gorff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy;
ystyr “corff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy” yw corff o gyfrifwyr sydd—
(a)
yn sefydledig yn y Deyrnas Unedig neu Wladwriaeth AEE arall, a
(b)
am y tro wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn;
ystyr “awdurdod perthnasol” yw unrhyw un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, unrhyw awdurdod cyhoeddus (gan gynnwys unrhyw awdurdod lleol) neu ddeiliad unrhyw swydd gyhoeddus.