Search Legislation

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, Adran 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

2Swydd Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.

(2)Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

(4)Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.

(5)Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.

(6)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 2 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Back to top

Options/Help