xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

PENNOD 1LL+CSWYDD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU

2Swydd Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

(1)Bydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr “Archwilydd Cyffredinol”) yn parhau.

(2)Ei Mawrhydi sydd i benodi person i fod yn Archwilydd Cyffredinol ar enwebiad y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Nid oes enwebiad i gael ei wneud hyd nes bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei fodloni bod ymgynghoriad rhesymol wedi cael ei wneud gyda’r cyrff hynny yr ymddengys i’r Cynulliad eu bod yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

(4)Mae’r person sydd wedi ei benodi yn dal y swydd am hyd at 8 mlynedd.

(5)Ni chaniateir i’r person gael ei benodi eto.

(6)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred neu anweithred person a benodwyd yn Archwilydd Cyffredinol gan ddiffyg yn enwebiad neu benodiad y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 2 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)