Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

23Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioeddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid talu ffioedd a symiau eraill y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu cael, i SAC.

(2)Caiff SAC godi ffi mewn perthynas ag archwilio cyfrifon neu ddatganiad o gyfrifon person gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(3)Caiff SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

(a)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan baragraff 18(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ymchwiliadau penodol i ddarbodaeth etc person wrth ddefnyddio adnoddau);

(b)ymchwiliad a gynhelir ar gais person o dan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ymchwiliadau i ddefnydd o adnoddau) neu astudiaeth a wneir ar gais person o dan adran 145A o’r Ddeddf honno (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau);

[F1(ba)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan adran 31 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru;]

(c)ymchwiliad neu astudiaeth a gynhelir neu a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gais person o dan adran 46(4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995;

[F2(ca)ymchwiliad o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy);]

(d)unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu swyddogaethau sy’n cael eu harfer o dan adran 19.

(4)Rhaid i SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—

(a)darparu gwasanaethau i gorff o dan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff);

(b)astudiaeth ar gais corff addysgol o dan adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

(5)O ran ffioedd a godir o dan yr adran hon—

(a)ni chaniateir iddynt gael eu codi ond yn unol â chynllun a baratoir gan SAC o dan adran 24;

(b)ni chaiff y ffi fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi;

(c)maent yn daladwy i SAC gan y person y mae’r swyddogaeth a arferir yn ymwneud ag ef.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 23 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)