RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC

Cynllun blynyddol

25Cynllun blynyddol

1

Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a SAC baratoi cynllun blynyddol ar y cyd ar gyfer y flwyddyn honno.

2

Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi’r canlynol—

a

rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol;

b

rhaglen waith SAC;

c

yr adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, i SAC;

d

sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol;

e

sut y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn ymgymryd â rhaglen SAC;

f

yr uchafswm, allan o’r o adnoddau sydd ar gael, ac a all ddod ar gael, y rhagwelir y bydd SAC yn dyrannu i’r Archwilydd Cyffredinol at y diben o ymgymryd â rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol.

3

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “rhaglen waith yr Archwilydd Cyffredinol” yw blaenoriaethau’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau;

  • ystyr “rhaglen waith SAC” yw blaenoriaethau SAC ar gyfer blwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.