RHAN 2F1Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Parhad ac enw

2F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

(1)

Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.

F3(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4(3)

Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).

Statws

3Statws

(1)

Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.

(2)

Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

Annotations:
Commencement Information

I2A. 3 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

Aelodau

4Aelodaeth

(1)

Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—

(a)

aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),

(b)

aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac

F5(c)

o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.

(2)

Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).

(3)

F6Ni chaiff aelod fod yn

F7(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;

F8(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;

(c)

aelod o awdurdod lleol F9neu’n aelod o staff awdurdod lleol F10...;

F11(d)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)

aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol F12, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol, ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

F13(ea)

aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)

aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(f)

comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)

aelod o staff y Comisiwn.

5Deiliadaeth

Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

Annotations:
Commencement Information

I4A. 5 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

Trafodion

6Trafodion

(1)

3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.

F14(1A)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.

(2)

Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(3)

Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.

7Y sêl a dilysrwydd dogfennau

(1)

Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.

(2)

Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.

(3)

Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Annotations:
Commencement Information

I6A. 7 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol

8Prif weithredwr

(1)

Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.

(2)

Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan F15y Comisiwn ar delerau ac amodau a benderfynir F16ganddo (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

F17(2A)

Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)

Cyn penodi prif weithredwr F18o dan is-adran (2A), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(4)

Ni chaiff y prif weithredwr fod—

F19(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;

F20(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;

(c)

yn aelod o awdurdod lleol F21neu’n aelod o staff awdurdod lleol;

F22(d)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)

yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol F23, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol, ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

F24(ea)

yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)

yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(f)

yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.

9Staff eraill

(1)

Caiff y Comisiwn gyflogi staff.

(2)

Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)

Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.

Annotations:
Commencement Information

I8A. 9 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

10Arbenigwyr

(1)

Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.

(2)

Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)

Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.

(4)

Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.

(5)

Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.

Annotations:
Commencement Information

I9A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

11Comisiynwyr cynorthwyol

F25(1)

Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).

(2)

F26Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn

F27(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;

F28(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;

(c)

aelod o awdurdod lleol F29neu’n aelod o staff awdurdod lleol F30...;

F31(d)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)

aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol F32, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol, ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

F33(ea)

aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)

aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(f)

comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)

aelod o staff y Comisiwn.

(3)

Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(4)

Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.

(5)

Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.

Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadau

F3411APŵer i godi tâl

(1)

Caiff y Comisiwn godi tâl ar berson am ddarparu nwyddau neu wasanaethau fel a grybwyllir yn is-adran (2) i adennill cost y ddarpariaeth os yw’r person wedi cytuno i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gael eu darparu.

(2)

Y nwyddau neu’r gwasanaethau yw—

(a)

nwyddau y mae’r Comisiwn yn eu darparu neu’n eu sicrhau, neu hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau, wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20A (swyddogaethau gweinyddu etholiadol);

(b)

hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau ar gyfer prif gyngor mewn cysylltiad â swyddogaethau’r cyngor o dan Ran 3.

12Pwerau

(1)

Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.

(2)

Ond ni chaiff y Comisiwn—

(a)

benthyca arian;

(b)

caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu

(c)

ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.

Annotations:
Commencement Information

I11A. 12 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

13Dirprwyo

(1)

Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu F35un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan F36

(a)

Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);

(b)

Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);

(c)

Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),

fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—

(a)

cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na

(b)

gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

14Cyfarwyddiadau

F37(1A)

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan unrhyw ddeddfiad, ac eithrio mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan—

(a)

Rhan 2A (cydlynu gwaith gweinyddu etholiadol);

(b)

Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).

(1B)

Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon.

(1C)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cyfarwyddyd y maent yn ei roi i’r Comisiwn neu i brif gyngor o dan y Ddeddf hon.

(2)

Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

F38(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Materion ariannol F39a llywodraethu

15Cyllido

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.

(2)

Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).

Annotations:
Commencement Information

I14A. 15 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

16Swyddog cyfrifyddu

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.

(2)

Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)

Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)

cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)

cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;

(c)

cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;

(d)

cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)

cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

Annotations:
Commencement Information

I15A. 16 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

17F40Pwyllgor llywodraethu ac archwilio

(1)

Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor F41(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”) i—

(a)

adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,

(b)

adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,

F42(ba)

adolygu, asesu a rheoli trefniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn,

(bb)

adolygu ac asesu sut y mae’r Comisiwn yn ymdrin â chwynion,

(bc)

adolygu—

(i)

datganiadau o gyfrifon ac adroddiadau a lunnir gan y Comisiwn o dan adrannau 19(1) ac 20,

(ii)

adroddiadau a lunnir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 19(4),

(c)

adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a

(d)

llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) F43, (ba), (bb), (bc) neu (c).

(2)

Rhaid i’r pwyllgor F44llywodraethu ac archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

F45(2A)

Caiff y Comisiwn roi i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio y swyddogaethau y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn addas i’w harfer gan y pwyllgor.

(3)

Y pwyllgor F46llywodraethu ac archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

18F47Pwyllgor llywodraethu ac archwilio: aelodaeth a chworwm

F48(1)

Mae aelodau’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio i fod fel a ganlyn—

(a)

o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn;

(b)

o leiaf ddau aelod lleyg;

(c)

dim mwy na phum aelod.

(2)

Rhaid penodi aelod lleyg o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio—

(a)

i gadeirio’r pwyllgor (y “cadeirydd”);

(b)

yn ddirprwy i’r cadeirydd.

(2A)

Ni chaiff person fod yn aelod o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio os yw’r person yn aelod o’r Comisiwn a’i fod naill ai’n aelod cadeirio’r Comisiwn neu’n gweithredu fel dirprwy i aelod cadeirio’r Comisiwn.

(2B)

Tri aelod yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, a rhaid i’r cworwm gynnwys o leiaf un aelod lleyg.

(3)

Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.

(4)

Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—

(a)

un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu

(b)

arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).

19Cyfrifon ac archwilio allanol

(1)

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—

(a)

cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)

llunio datganiad o gyfrifon.

(2)

Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)

yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,

(b)

y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,

(c)

y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)

Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)

Gweinidogion Cymru, a

(b)

Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)

archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a

(b)

heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Annotations:
Commencement Information

I18A. 19 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

20Adroddiadau blynyddol

(1)

Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.