RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Aelodau
4Aelodaeth
(1)
Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—
(a)
aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),
(b)
aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac
(c)
dim mwy na 3 aelod arall.
(2)
Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).
(3)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn—
(a)
aelod Seneddol;
(b)
aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)
aelod o awdurdod lleol yng Nghymru;
(d)
swyddog i awdurdod lleol yng Nghymru;
(e)
aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)
comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)
aelod o staff y Comisiwn.
5Deiliadaeth
Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.