xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+C [F1Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru]

Diwygiadau Testunol

Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadauLL+C

12PwerauLL+C

(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—

(a)benthyca arian;

(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu

(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

13DirprwyoLL+C

(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu [F2un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol] y swyddogaethau hynny o dan [F3

(a)Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);

(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);

(c)Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),

fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.]

(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—

(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na

(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)

14CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

[F4(3)Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 14 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)