RHAN 2F7Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol
I18Prif weithredwr
1
Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
2
F12A
Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).
3
Cyn penodi prif weithredwr F4o dan is-adran (2A), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
4
Ni chaiff y prif weithredwr fod—
F8a
aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;
F9ba
person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
bb
person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
bc
cynghorydd arbennig;
c
yn aelod o awdurdod lleol;
d
yn swyddog awdurdod lleol;
e
yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
f
yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
I29Staff eraill
1
Caiff y Comisiwn gyflogi staff.
2
Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
3
Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.
I310Arbenigwyr
1
Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.
2
Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
3
Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.
4
Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.
5
Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.
I411Comisiynwyr cynorthwyol
F101
Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).
2
F11Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn—
F12a
aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;
F13ba
person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
bb
person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
bc
cynghorydd arbennig;
c
aelod o awdurdod lleol F5...;
d
swyddog i awdurdod lleol F6...;
e
aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
f
comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
g
aelod o staff y Comisiwn.
3
Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
4
Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.
5
Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.
Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)