- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
Diwygiadau Testunol
F1Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)
(1)Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F4(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).]
Diwygiadau Testunol
F2Pennawd a. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(c), 25(1)(a)
F3A. 2(2) wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(a), 25(1)(a)
F4A. 2(3) wedi ei fewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(b), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.
(2)Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 3 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—
(a)aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),
(b)aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac
[F5(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.]
(2)Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).
(3)[F6Ni chaiff aelod fod yn]—
[F7(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F8(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)aelod o awdurdod lleol [F9neu’n aelod o staff awdurdod lleol] F10...;
F11(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F12, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
[F13(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F5A. 4(1)(c) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 13, 25(1)(a)
F6Geiriau yn a. 4(3) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(a), 25(1)(a)
F7A. 4(3)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(b), 25(1)(a)
F8A. 4(3)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 4(3)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(c), 25(1)(a)
F9Geiriau yn a. 4(3)(c) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(a), 72(1)(c)
F10Geiriau yn a. 4(3)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F11A. 4(3)(d) wedi ei hepgor (10.9.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(b), 72(1)(c)
F12Geiriau yn a. 4(3)(e) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(c), 72(1)(c)
F13A. 4(3)(ea)(eb) wedi ei fewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(d), 72(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 4 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 5 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.
[F14(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.]
(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F14A. 6(1A) wedi ei fewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 15, 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 6 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.
(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.
(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 7 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F15y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F16ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
[F17(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]
(3)Cyn penodi prif weithredwr [F18o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—
[F19(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F20(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)yn aelod o awdurdod lleol [F21neu’n aelod o staff awdurdod lleol];
F22(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F23, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
[F24(ea)yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]
(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
Diwygiadau Testunol
F15Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F16Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F17A. 8(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(3), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F18Geiriau yn a. 8(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(4), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F19A. 8(4)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(2)(a), 25(1)(a)
F20A. 8(4)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 8(4)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(2)(b), 25(1)(a)
F21Geiriau yn a. 8(4)(c) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(a), 72(1)(c)
F22A. 8(4)(d) wedi ei hepgor (10.9.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(b), 72(1)(c)
F23Geiriau yn a. 8(4)(e) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(c), 72(1)(c)
F24A. 8(4)(ea)(eb) wedi ei fewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(d), 72(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 8 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.
(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 9 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.
(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
[F25(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).]
(2)[F26Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn]—
[F27(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F28(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)aelod o awdurdod lleol [F29neu’n aelod o staff awdurdod lleol] F30...;
F31(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F32, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
[F33(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.
Diwygiadau Testunol
F25A. 11(1) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(a), 25(1)(a)
F26Geiriau yn a. 11(2) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(i), 25(1)(a)
F27A. 11(2)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(ii), 25(1)(a)
F28A. 11(2)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 11(2)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(iii), 25(1)(a)
F29Geiriau yn a. 11(2)(c) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(a), 72(1)(c)
F30Geiriau yn a. 11(2)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F31A. 11(2)(d) wedi ei hepgor (10.9.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(b), 72(1)(c)
F32Geiriau yn a. 11(2)(e) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(c), 72(1)(c)
F33A. 11(2)(ea)(eb) wedi ei fewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(d), 72(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 11 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.
(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—
(a)benthyca arian;
(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu
(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 12 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu [F34un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol] y swyddogaethau hynny o dan [F35—
(a)Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);
(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);
(c)Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),
fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.]
(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—
(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na
(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.
Diwygiadau Testunol
F34Geiriau yn a. 13(1) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(2), 25(1)(a)
F35Geiriau yn a. 13(1) wedi eu hamnewid (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.
[F36(3)Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).]
Diwygiadau Testunol
F36A. 14(3) wedi ei fewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 14 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.
(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 15 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 16 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—
(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,
(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,
(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a
(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).
(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.
(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 17 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a
(b)o leiaf un aelod lleyg.
(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.
(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—
(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu
(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 18 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b)llunio datganiad o gyfrifon.
(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,
(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.
(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 19 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 20 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: