Valid from 30/09/2013

RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 1LL+CDYLETSWYDDAU I FONITRO TREFNIADAU LLYWODRAETH LEOL

Dyletswydd y ComisiwnLL+C

21Dyletswydd y Comisiwn i fonitro trefniadau ar gyfer llywodraeth leolLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro’r ardaloedd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i’r Comisiwn gynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)

Dyletswyddau prif gyngorLL+C

22Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardalLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro—

(a)y cymunedau yn ei ardal, a

(b)trefniadau etholiadol y cymunedau hynny.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i brif gyngor—

(a)rhoi sylw i amserlen y Comisiwn ar gyfer cynnal yr adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardaloedd sy’n ofynnol gan adran 29(1), a

(b)cynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i brif gyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(4)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’r Comisiwn yr wybodaeth y gallai yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(5)Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob cyfnod adrodd, gyhoeddi adroddiad sy’n disgrifio sut y cyflawnodd ei ddyletswydd o dan is-adran (1) ac anfon copi o’r adroddiad at y Comisiwn.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda—

(i)y dyddiad pryd y cyhoeddwyd ddiwethaf adroddiad gan y prif gyngor o dan adran 55(2A) neu, os yw’n gynharach, adran 57(4A) o Ddeddf 1972, neu

(ii)yn achos prif gyngor nad yw wedi cyhoeddi adroddiad o’r fath cyn y daw’r adran hon i rym, y dyddiad pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 22 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)