RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 7DARPARIAETH AMRYWIOL
48Cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)
Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—
(a)
i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon F1(ni waeth a fyddai gan y Comisiwn y pŵer, neu y byddai’n ddarostyngedig i ddyletswydd, o dan yr amgylchiadau, i gynnal yr adolygiad ai peidio) ,
F2(aa)
pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion i Weinidogion Cymru, i gynnal adolygiad pellach o dan y Rhan hon,
(ab)
i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon,
(b)
i beidio â chynnal adolygiad o dan F3y Rhan hon yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,
F4(c)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(d)
i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,
(e)
i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
F5(f)
i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.
(3)
Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(5)
Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—
(a)
i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
F6(aa)
i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
(ab)
i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,
(b)
i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
F7(c)
i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.
(6)
Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).
(7)
Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.
(8)
Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.
(9)
Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
F8(10)
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â defnyddio’r pwerau cyfarwyddo o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad am fwy na 9 mis, pa un a yw’r oedi am un cyfnod o 9 mis neu am fwy nag un cyfnod sy’n dod i gyfanswm o 9 mis.
(11)
Nid yw unrhyw gyfnod pan gyfarwyddir y Comisiwn neu brif gyngor o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad i gael ei ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) i (5) o adran 36B.
49Ymchwiliadau lleol
(1)
Caiff y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor, beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo o dan y Rhan hon.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad â gorchymyn drafft a lunnir o dan adran 43.
(3)
Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad drwy wŷs ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol ar adeg ac mewn man a bennir yn y wŷs—
(a)
i roi tystiolaeth, neu
(b)
i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater dan sylw a ddelir gan y person neu sydd o dan reolaeth y person.
(4)
Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.
(5)
Rhaid talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol i berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol o dan is-adran (3).
(6)
Er gwaethaf is-adran (3)(b), ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno teitl (neu unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.
(7)
Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person—
(a)
yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad gwŷs a gyflwynir i’r person o dan is-adran (3) neu’n methu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath,
(b)
yn newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol i’r person ei chyflwyno o dan yr adran hon.
(8)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu’r carchar am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.
(9)
Caiff y person neu’r corff sy’n peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan yr adran hon wneud gorchmynion o ran—
(a)
costau’r partïon yn yr ymchwiliad, a
(b)
y partïon y mae’r costau i’w talu ganddynt.
(10)
Caniateir i orchymyn o dan is-adran (9) gael ei wneud yn un o reolau’r Uchel Lys ar gais parti a enwir yn y gorchymyn.
F949ZACyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3
(1)
Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)
copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon;
(b)
copi o bob gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan y Comisiwn o dan y Rhan hon;
(c)
copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(2)
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)
copi o bob gorchymyn a wneir gan brif gyngor o dan y Rhan hon;
(b)
copi o bob gorchymyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud o dan y Rhan hon;
(c)
copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath;
(d)
copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(3)
Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon i’r Comisiwn.
(4)
Rhaid i’r Comisiwn anfon i brif gyngor gopi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
hysbysu prif gyngor am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor;
(b)
hysbysu’r Comisiwn am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon.
(6)
Mae’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchmynion a wneir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
F1049ZBCyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymuned
(1)
Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol.
(2)
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru, gyda’u henwau presennol.
(3)
Os oes gan gymuned neu gyngor cymuned enwau gwahanol at ddiben cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid cynnwys y ddau enw mewn rhestr y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan yr adran hon.