RHAN 6DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
I170Darpariaeth atodol
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y maent o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lwyr i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â rhoi effaith lwyr i ddarpariaeth o’r fath.
2
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.
I271Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 47) yn arferadwy gan offeryn statudol, ac mae’n cynnwys pŵer i—
a
gwneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi,
b
addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon), ac
c
gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ardaloedd gwahanol.
2
Bydd offeryn statudol sy’n cynnwys—
a
gorchymyn o dan adran 34(3)(e) neu 70(1),
b
gorchymyn o dan adran 37(1) sy’n cynnwys darpariaeth i newid ardal prif gyngor neu sir wedi ei chadw F1..., neu
c
rheoliadau o dan adran 41(1),
yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Er gwaethaf is-adran (2), ni fydd unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf hon sy’n cynnwys darpariaeth yn disodli, hepgor neu’n ychwanegu at unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei wneud hyd oni fydd drafft o’r gorchymyn wedi ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad ganddo.
4
Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 45 neu 75 F5, neu reoliadau a wneir o dan adran 49J.
I372Dehongli
1
Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—
mae “addasu” mewn perthynas â deddfiad yn cynnwys diwygio neu ddiddymu,
F2ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—
- a
Aelod o’r Senedd;
- b
aelod o Dŷ’r Cyffredin;
- c
aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
- d
aelod o Senedd yr Alban;
- e
aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;
- a
ystyr “ardal llywodraeth leol” yw cymuned neu brif ardal,
ystyr “awdurdod lleol” yw prif gyngor neu gyngor cymuned,
“cyfarfod cymunedol” yw cyfarfod o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer cymuned a gynullwyd o dan adran 27(1) o Ddeddf 1972,
F2“ystyr “cynghorydd arbennig” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—
- a
ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25), neu
- b
yn adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Sifil (Cynghorwyr Arbennig) (Gogledd Iwerddon) 2013 (p. 8 (G.I.)),”;
- a
ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70),
mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sydd mewn is-ddeddfwriaeth,
ystyr “Mesur 2011” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4),
F2“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),
ystyr “prif ardal” yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
2
Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.
I473Diddymiadau, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
1
Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.
2
Mae Atodlen 2 (sy’n cynnwys diddymiadau i deddfwriaeth) yn cael effaith.
I574Adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraill
F31
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F32
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
3
Bydd unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf 1972 (rheoliadau mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion a chynigion o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno) sydd mewn grym ar ddyddiad cychwyn yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â gorchmynion o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon (gorchmynion sy’n gweithredu newidiadau yn dilyn adolygiadau) fel petai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
4
Nid yw is-adran (3) yn cael effaith ond i’r graddau nad yw unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 41 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.
I675Cychwyn
1
Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
a
adran 1;
b
adran 70;
c
adran 71;
d
adran 72 (ac Atodlen 3);
e
yr adran hon;
f
adran 76.
2
Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
a
Rhan 2;
b
Rhan 3;
c
Rhan 4;
d
Adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74.
3
Mae gweddill y darpariaethau yn y Ddeddf hon yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan orchymyn a wneir gan offeryn statudol a wneir gan Weinidogion Cymru.
4
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
a
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a
b
cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
I776Teitl byr
Teitl byr y Ddeddf hon yw F4Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.