1TrosolwgLL+C
(1)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o ddarpariaethau’r Ddeddf hon.
[F1(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.]
(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau, a dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau (gweler adrannau 21 a 22),
(b)y mathau o adolygiadau y gellir eu cynnal, yr ystyriaethau i’r corff adolygu eu hystyried a’r newidiadau y gellir eu hargymell mewn perthynas â phob math o adolygiad (gweler adrannau 23 i 33),
(c)y weithdrefn ar gyfer cynnal adolygiadau (gweler adrannau 34 i 36),
(d)gweithredu argymhellion yn dilyn adolygiad a materion cysylltiedig (megis trosglwyddo staff neu eiddo rhwng prif gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill) (gweler adrannau 37 i 44).
(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol.
(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—
(a)ynghylch penodi aelod llywyddol prif gyngor;
(b)sy’n ailddatgan ac yn ymestyn pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â hyrwyddo a gwrthwynebu Biliau preifat;
(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth cynghorau cymuned fod ar gael ar ffurf electronig;
(d)ynghylch cyhoeddi cofrestrau o fuddiannau aelodau cyrff cyhoeddus penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol) yn electronig;
(e)yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell;
(f)yn ymwneud â rôl pwyllgorau gwasanaethau democrataidd;
(g)sy’n cymhwyso gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol i bwyllgorau archwilio prif bwyllgorau;
(h)yn ymwneud â swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a sut y mae’n paratoi adroddiadau;
(i)ynghylch sefydlu cyd-bwyllgorau safonau;
(j)sy’n galluogi’r pwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol i gyfeirio achosion sy’n ymwneud ag ymddygiad at bwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol arall.
(6)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch y Ddeddf hon.
Diwygiadau Testunol
F1A. 1(2) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(a)