RHAN 2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadau

13Dirprwyo

(1)

Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu F1un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan F2

(a)

Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);

(b)

Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);

(c)

Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),

fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—

(a)

cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na

(b)

gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.