RHAN 2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Materion ariannol a llywodraethu

19Cyfrifon ac archwilio allanol

(1)

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—

(a)

cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)

llunio datganiad o gyfrifon.

(2)

Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)

yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,

(b)

y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,

(c)

y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)

Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)

Gweinidogion Cymru, a

(b)

Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)

archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a

(b)

heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.