RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD

Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithredu

40Gorchmynion gweithredu: darpariaeth ganlyniadol

(1)

Caniateir i orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu brif gyngor o dan adran 37, 38, 39 neu 43 wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy neu ei farn ef.

(2)

Caniateir i’r gorchmynion hynny, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

enw unrhyw ardal neu ward etholiadol sydd wedi ei newid;

(b)

cyfanswm nifer y cynghorwyr, dosraniad cynghorwyr ymhlith wardiau etholiadol, neilltuo cynghorwyr presennol i wardiau etholiadol newydd neu wardiau etholiadol sydd wedi eu newid ac etholiad cyntaf cynghorwyr i unrhyw ward etholiadol newydd neu unrhyw ward etholiadol sydd wedi ei newid;

(c)

cynnal etholiad newydd i gynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol yn yr ardal llywodraeth leol dan sylw;

(d)

y drefn ar gyfer ymddeoliad cynghorwyr ar gyfer ward etholiadol;

(e)

cyfansoddiad unrhyw gorff cyhoeddus mewn unrhyw ardal neu ward etholiadol y mae’r gorchymyn yn effeithio arni, etholiad iddo ac aelodaeth ohono;

(f)

unrhyw un neu ragor o’r materion a ddisgrifir yn adran 41(2).

(3)

Dim ond o ganlyniad i newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal a wnaed yn dilyn adolygiad o dan Bennod 3 y caniateir gwneud darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2)(c).

(4)

Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 37 neu 43 gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(5)

Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).

(6)

Yn yr adran hon—

mae “corff cyhoeddus”yn cynnwys—

(a)

awdurdod lleol,

(b)

unrhyw ymddiriedolwyr, comisiynwyr neu bersonau eraill sydd, at ddibenion cyhoeddus ac nid er eu budd eu hunain, yn gweithredu o dan unrhyw ddeddfiad neu offeryn er mwyn gwella unrhyw fan, cyflenwi dŵr i unrhyw fan, neu ddarparu neu gynnal mynwent neu farchnad mewn unrhyw fan, ac

(c)

unrhyw awdurdod arall a chanddo bwerau i godi neu ddyroddi praesept ar gyfer unrhyw ardreth at ddibenion cyhoeddus,

ystyr “cynghorydd” yw aelod etholedig awdurdod lleol.