RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD
Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithredu
41Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol gyffredinol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i orchmynion a wneir o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu mewn cysylltiad â hynny.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
swyddogaethau, ardal neu awdurdodaeth mewn neu dros ardal (neu ran o ardal) unrhyw gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus o fewn ardal (neu ward etholiadol) y mae gorchymyn a wneir o dan y Rhan hon yn effeithio arni;
(b)
costau a threuliau corff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus y mae’r cyfryw orchymyn yn effeithio arnynt;
(c)
trosglwyddo staff cyrff cyhoeddus neu swyddi cyhoeddus yr effeithir arnynt;
(d)
trosglwyddo, rheoli neu warchod eiddo (boed yn eiddo tirol neu’n eiddo personol) a throsglwyddo hawliau a rhwymedigaethau;
(e)
trosglwyddo achosion cyfreithiol.
(3)
Caniateir i’r rheoliadau o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
(4)
Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).
(5)
Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).