RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 5LL+CGWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD

Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithreduLL+C

42Trosglwyddo staffLL+C

Rhaid i orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu, yn ôl y digwydd, reoliadau o dan adran 41 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff gynnwys darpariaeth i sicrhau—

(a)bod person a drosglwyddir i gyflogwr newydd yn aros ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai yr oedd y person yn ddarostyngedig iddynt cyn iddo drosglwyddo hyd nes bod y person—

(i)yn gadael cyflogaeth y cyflogwr newydd, neu

(ii)yn cael datganiad ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y gorchymyn neu’r rheoliadau ac sy’n pennu telerau ac amodau cyflogaeth newydd, a

(b)ar yr amod bod y person yn cyflawni dyletswyddau sy’n rhesymol debyg i’r rhai yr oedd yn eu cyflawni yn union cyn y trosglwyddo, nad yw unrhyw delerau ac amodau newydd a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (a)(ii) yn llai ffafriol na’r rhai a oedd gan y person cyn y trosglwyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)