RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 6DARPARIAETH ARALL SY’N BERTHNASOL I FFINIAU AWDURDODAU LLEOL

46Rhychwant ffiniau tua’r môr

(1)

Mae unrhyw ran o lannau’r môr i farc y distyll yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.

(2)

Mae pob croniant o’r môr (boed yn naturiol neu’n artiffisial) yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.

(3)

Mae pob croniant neu ran o lannau’r môr sy’n ffurfio rhan o gymuned o dan yr adran hon hefyd yn ffurfio rhan o’r brif ardal a’r sir wedi ei chadw lle y mae’r gymuned.