RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 6DARPARIAETH ARALL SY’N BERTHNASOL I FFINIAU AWDURDODAU LLEOL

I147Newid ffin yn dilyn newid cwrs dŵr

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cwrs dŵr yn ffurfio llinell ffin rhwng dwy neu ragor o ardaloedd llywodraeth leol.

2

Os newidir y cwrs dŵr, drwy arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57), Deddf Draenio Tir 1991 (p. 59) neu unrhyw ddeddfiad arall, mewn unrhyw ffordd sy’n effeithio ar ei gymeriad fel llinell ffin, rhaid i’r person y gwneir y newid o dan ei awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru am y newid cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio llinell ffin y mae hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) yn ymwneud â hi drwy roi llinell ffin newydd (boed a yw’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n rhannol linell y cwrs dŵr fel y’i newidiwyd) yn lle cymaint o linell y ffin honno ag a oedd ar linell y cwrs dŵr cyn y newid.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (3).

5

Rhaid i Weinidogion Cymru, yn y modd sy’n briodol yn eu barn hwy, gyhoeddi hysbysiad o unrhyw orchymyn a wneir o dan yr adran hon.

6

At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at ardal lywodraeth leol yn cynnwys cyfeiriad at sir wedi ei chadw.