RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 7LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL

48Cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—

(a)i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon [F1(ni waeth a fyddai gan y Comisiwn y pŵer, neu y byddai’n ddarostyngedig i ddyletswydd, o dan yr amgylchiadau, i gynnal yr adolygiad ai peidio)] ,

[F2(aa)pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion i Weinidogion Cymru, i gynnal adolygiad pellach o dan y Rhan hon,

(ab)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon,]

(b)i beidio â chynnal adolygiad o dan [F3y Rhan hon] yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,

F4(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,

(e)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.

(3)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(5)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—

(a)i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,

[F5(aa)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,

(ab)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,]

(b)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.

(6)Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).

(7)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.

(8)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.

(9)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.