F1RHAN 3AADOLYGIADAU O FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r Senedd

(1)

Rhaid i bob etholaeth Senedd gael‍ enw‍ unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg‍).

(2)

Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—

(a)

ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a

(b)

ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.

(3)

Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—

(a)

yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a

(b)

yn fersiwn Saesneg yr adroddiad‍.