(1)Ar ôl adran 143 o Fesur 2011 mewnosoder—
(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—
(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;
(b)unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.
(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).
(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod—
(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a
(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.
(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.
(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;
mae “cyflog” (“salary”) yn cynnwys, yn achos pennaeth gwasanaeth cyflogedig y mae awdurdod perthnasol cymwys yn ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, daliadau gan yr awdurdod i bennaeth y gwasanaeth cyflogedig am y gwasanaethau hynny;
ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;
ystyr “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”(“head of paid service”) yw pennaeth gwasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.”.
(2)Yn mhennawd Rhan 8 o Fesur 2011, hepgorer “AELODAU:”.
(3)Yn adran 112 o Ddeddf 1972 (penodi staff), yn is-adran (2A), ar ôl “statement)” mewnosoder “and in relation to a local authority in Wales, section 143A of the Local Government (Wales) Measure 2011 (functions of the Independent Remuneration Panel in relation to salaries of heads of paid service).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I2A. 63 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2014/380, ergl. 2