RHAN 5NEWIDIADAU ERAILL I LYWODRAETH LEOL
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
I167Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau
Yn adran 151 o Fesur 2011 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau)—
a
yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
c
ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.
b
ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
3
At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—
a
bwrdd iechyd lleol,
b
panel heddlu a throsedd,
c
awdurdod perthnasol,
d
corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.