(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 47) yn arferadwy gan offeryn statudol, ac mae’n cynnwys pŵer i—
(a)gwneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi,
(b)addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon), ac
(c)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ardaloedd gwahanol.
(2)Bydd offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)gorchymyn o dan adran 34(3)(e) neu 70(1),
(b)gorchymyn o dan adran 37(1) sy’n cynnwys darpariaeth i newid ardal prif gyngor neu sir wedi ei chadw F1..., neu
(c)rheoliadau o dan adran 41(1),
yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Er gwaethaf is-adran (2), ni fydd unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf hon sy’n cynnwys darpariaeth yn disodli, hepgor neu’n ychwanegu at unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei wneud hyd oni fydd drafft o’r gorchymyn wedi ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad ganddo.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 45 neu 75.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 71(2)(b) wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(d), 175(1)(f)(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 71 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(c)