RHAN 6DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
72Dehongli
(1)
Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—
mae “addasu” mewn perthynas â deddfiad yn cynnwys diwygio neu ddiddymu,
F1ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—
(a)
Aelod o’r Senedd;
(b)
aelod o Dŷ’r Cyffredin;
(c)
aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
(d)
aelod o Senedd yr Alban;
(e)
aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;
ystyr “ardal llywodraeth leol” yw cymuned neu brif ardal,
ystyr “awdurdod lleol” yw prif gyngor neu gyngor cymuned,
“cyfarfod cymunedol” yw cyfarfod o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer cymuned a gynullwyd o dan adran 27(1) o Ddeddf 1972,
F1“ystyr “cynghorydd arbennig” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—
(a)
ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25), neu
ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70),
F2ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—
(a)
Deddf neu Fesur gan Senedd Cymru;
(b)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
(c)
unrhyw is-ddeddfwriaeth.
ystyr “Mesur 2011” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4),
F1“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),
ystyr “prif ardal” yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
(2)
Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.