RHAN 2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol

8Prif weithredwr

(1)

Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.

(2)

Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan F1y Comisiwn ar delerau ac amodau a benderfynir F2ganddo (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

F3(2A)

Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)

Cyn penodi prif weithredwr F4o dan is-adran (2A), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(4)

Ni chaiff y prif weithredwr fod—

F5(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;

F6(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;

(c)

yn aelod o awdurdod lleol F7neu’n aelod o staff awdurdod lleol;

F8(d)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)

yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol F9, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol, ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

F10(ea)

yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)

yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(f)

yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.