Cydsynio
4Cydsynio: oedolion
(1)
Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person nad yw—
(a)
yn oedolyn a eithrir (gweler adran 5), neu
(b)
yn blentyn (gweler adran 6).
(2)
Ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i’r gweithgaredd oni bai—
(a)
bod yr achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3); ac os felly mae’n ofynnol cael cydsyniad datganedig, neu
(b)
nad yw’r achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3) ac mae is-adran (4) yn gymwys.
(3)
Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1, mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r person yn fyw. | Cydsyniad y person. |
2. Mae’r person wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y person i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad y person. |
3. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin a’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r person cyn iddo farw. |
(4)
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)
os yw perthynas neu gyfaill ers amser maith i’r ymadawedig yn gwrthwynebu ar sail barn yr ymadawedig, a
(b)
pe byddai person rhesymol yn dod i’r casgliad bod y perthynas neu’r cyfaill yn gwybod mai barn ddiweddaraf yr ymadawedig cyn iddo farw ar gydsynio i weithgareddau trawsblannu oedd bod yr ymadawedig yn gwrthwynebu i gydsyniad gael ei roi.
(5)
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
(6)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).
5Cydsynio: oedolion a eithrir
(1)
Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, oedolyn a eithrir.
(2)
Yn achos oedolyn a eithrir mae angen cydsyniad datganedig.
(3)
Ystyr “oedolyn a eithrir” yw—
(a)
oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn iddo farw, neu
(b)
oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd ganddo am gyfnod sylweddol cyn marw y galluedd i ddeall y cysyniad y gellir ystyried bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi ei roi;
ac at y diben hwn mae cyfnod sylweddol yn golygu cyfnod sy’n ddigon hir i arwain person rhesymol i’r casgliad y byddai’n amhriodol ystyried bod cydsyniad wedi ei roi.
(4)
Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn a eithrir i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad yr oedolyn a eithrir. |
2. Nid yw achos 1 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
3. Nid yw achos 1 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw. |
4. Nid yw achosion 1, 2 na 3 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn a eithrir. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw. |
(5)
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
(6)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).
6Cydsynio: plant
(1)
Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsyniad at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn.
(2)
Yn achos person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn mae angen cydsyniad datganedig.
(3)
Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 mae ystyr cydsyniad datganedig wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys. | Cydsyniad y plentyn. |
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, a naill ai nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio neu mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny. | Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. |
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad y plentyn. |
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r weithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno. |
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn. | Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno. |
(4)
Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.
(5)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
(6)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).
7Cydsynio: gweithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrir
(1)
Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer cydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir.
(2)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “deunydd perthnasol a eithrir” yw deunydd perthnasol o fath a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
(3)
Enghreifftiau o’r mathau o ddeunydd perthnasol y caniateir ei bennu’n ddeunydd perthnasol a eithrir yw meinweoedd cyfansawdd a mathau eraill o ddeunydd yr ystyrir bod eu tynnu a’u defnyddio yn ddull newydd.
(4)
Yn achos gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir mae cydsyniad datganedig yn ofynnol, ac mae rhaid i’r cydsyniad hwnnw fod yn benodol i dynnu deunydd perthnasol a eithrir.
(5)
I oedolyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 4, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r oedolyn yn fyw. | Cydsyniad yr oedolyn. |
2. Mae’r oedolyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad yr oedolyn. |
3. Mae’r oedolyn wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw. |
5. Mae’r oedolyn wedi marw ac nid yw achosion 2, 3 na 4 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw. |
(6)
I blentyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 5, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys. | Cydsyniad y plentyn. |
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, ac nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio, neu, mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny. | Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. |
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad y plentyn. |
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno. |
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn. | Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno. |
(7)
Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.
(8)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
8Cynrychiolwyr penodedig
(1)
Caiff person benodi un neu ragor o bersonau i gynrychioli’r person ar ôl ei farwolaeth mewn perthynas â chydsyniad datganedig at ddibenion adran 3.
(2)
Caiff penodiad fod yn gyffredinol neu’n gyfyngedig i gydsyniad mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau trawsblannu a bennir yn y penodiad.
(3)
Caniateir i benodiad gael ei wneud ar lafar neu’n ysgrifenedig.
(4)
Dim ond os caiff ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf ddau dyst sy’n bresennol yr un pryd y mae penodiad llafar yn ddilys.
(5)
Dim ond os yw un o’r canlynol yn wir y mae penodiad ysgrifenedig yn ddilys—
(a)
ei fod wedi ei lofnodi gan y person sy’n ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod,
(b)
ei fod wedi ei lofnodi yn ôl cyfarwyddyd y person sy’n ei wneud, yn ei bresenoldeb ac ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod, neu
(c)
ei fod wedi ei gynnwys yn ewyllys y person sy’n ei wneud, a honno’n ewyllys sydd wedi ei gwneud yn unol â gofynion adran 9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837.
(6)
Pan fo person yn penodi dau berson neu ragor mewn perthynas â’r un gweithgaredd trawsblannu, maent i’w hystyried yn rhai sydd wedi eu penodi i weithredu ar y cyd ac yn unigol onid yw’r penodiad yn darparu eu bod wedi eu penodi i weithredu ar y cyd.
(7)
Caniateir i benodiad gael ei ddirymu ar unrhyw bryd.
(8)
Mae is-adrannau (3) i (5) yn gymwys i ddirymu penodiad yn yr un modd ag y maent yn gymwys i wneud penodiad o’r fath.
(9)
Caiff person a benodir ildio’r penodiad ar unrhyw bryd.
(10)
Ni chaiff person weithredu o dan benodiad—
(a)
os nad yw’n oedolyn, neu
(b)
os yw’r person o ddisgrifiad a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(11)
Pan fo person wedi penodi person neu bersonau o dan adran 4 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â gweithgaredd a wneir at ddibenion trawsblannu, mae’r person i’w drin hefyd fel un sydd wedi gwneud penodiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r gweithgaredd.
(12)
At ddiben adrannau 4(3), 5(4), 6(3) a 7 os nad yw’n rhesymol ymarferol cyfathrebu â pherson a benodir o dan yr adran hon o fewn yr amser sydd ar gael os yw’r cydsyniad i gael ei roi ar waith, mae’r person i gael ei drin fel pe na bai’n gallu rhoi cydsyniad i weithgaredd o dan y penodiad.
9Gweithgareddau sy’n ymwneud â deunydd o oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo gweithgaredd trawsblannu o fewn adran 3(2)(c) neu (d) (storio neu ddefnyddio deunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol) sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn ymwneud â deunydd perthnasol o gorff person (“P”)—
(i)
sy’n oedolyn, a
(ii)
nad yw’r galluedd ganddo i gydsynio â’r gweithgaredd, a
(b)
pan na fo unrhyw benderfyniad gan P i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym.
(2)
Ystyrir bod P wedi cydsynio i’r gweithgaredd os yw’r gweithgaredd wedi ei wneud mewn amgylchiadau o fath a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.