Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Gorffennaf 2013 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013. Fe’u lluniwyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.